Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
O na, yn hollol wag, yn bendant. Nawr, rwy’n croesawu buddsoddiad y DU yn nyfodol economaidd Cymru drwy gynnydd o £400 miliwn mewn cyllid cyfalaf dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r arian hwn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y £500 miliwn y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ei fenthyca i’w fuddsoddi hefyd o 2018, symudiad y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud y gallai agor y drws ar gynnydd mawr yng ngallu Llywodraeth Cymru i fenthyca a thalu am rai o’r prosiectau seilwaith mawr eu hangen ar draws Cymru. Fy marn i yw—