Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Wrth gwrs. Fel Llywodraeth, rŷm ni’n erfyn ar gymdeithasau tai i sicrhau nid dim ond eu bod yn adeiladu, ond eu bod nhw’n cynnal tai hefyd a sicrhau bod tai mewn cyflwr da. Nawr ac yn y man, mae yna gwynion yn dod. Rwy’n cael yr un peth, wrth gwrs, ag y mae hi, ac mae’r cwynion hynny, yn fy mhrofiad i, yn cael eu delio gyda nhw mewn ffordd eithaf cyflym. Ond rŷm ni’n erfyn, wrth gwrs, fod y safon yn cael ei sicrhau pan fo tai yn cael eu hadeiladu, ac, wrth gwrs, pan fo tai yn cael eu cynnal drwy ystod bywyd y tai hynny.