<p>Trawsnewid Gwasanaethau Rheilffyrdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Bydd, mi fydd y metro yn gymysgedd o reilffyrdd ysgafn, rheilffyrdd trwm a gwasanaethau bws cyflymach. Bydd rhai rheilffyrdd a fydd yn fwy priodol ar gyfer rheilffyrdd ysgafn nag eraill. Mae angen i mi ychwanegu nawr ein bod ni wedi ei gwneud yn gwbl eglur i'r undebau llafur, os byddwn yn symud tuag at reilffyrdd ysgafn ar rai o reilffyrdd y Cymoedd, nad yw hynny'n rheswm i dorri swyddi na thelerau ac amodau. Rydym ni’n gwybod yn iawn ei bod hi’n hynod bwysig bod gan y rhai sy'n gweithio ar y rheilffyrdd hynny nawr yn cael yr un telerau ac amodau yn y dyfodol â’r rhai sydd ganddyn nhw nawr. Nid Chris Grayling yw Ken Skates. Ni fydd yn diolch i mi am y gymhariaeth honno, nid wyf yn credu, ond dyna ni. A byddwn yn gweithio gyda'r undebau llafur yn hynny o beth. Ond, wrth gwrs, mantais rheilffyrdd ysgafn yw eu gallu i ymestyn i rannau nid yn unig o Gaerdydd ond cymunedau'r Cymoedd lle nad yw rheilffyrdd trwm yn mynd i fynd oherwydd y gost ac oherwydd topograffi. Mae'r metro yr ydym ni wedi ei ragweld yn un lle mae gennym ni gyfuniad o ddewisiadau trafnidiaeth cyflym sy'n rhan o hynny. Ni allwn aros i Network Rail roi trefn ar ei hun. Rydym ni wedi cael problemau gyda Network Rail pan nad yw'n amlwg eu bod nhw’n gwybod beth yw cyflwr yr ased, neu ba un a oes arolwg priodol neu a yw wedi bod am 25 mlynedd, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n bwrw ymlaen â’r metro i wasanaethu ein cymunedau mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl.