Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Anfonwyd llythyr ym mis Mehefin eleni at Amber Rudd. Roeddem ni mewn cysylltiad â swyddogion Llywodraeth y DU y bore yma. Nid yw eu safbwynt nhw, yn ei hanfod, wedi newid. Yr anhawster yw nad yw'r ymddiriedolwyr wedi codi unrhyw faterion gyda Llywodraeth y DU ynghylch dymuno newid y broses bresennol. Felly, bydd angen sicrhau bod yr ymddiriedolwyr yn hapus gydag unrhyw newidiadau yn ogystal, wrth gwrs, â Llywodraeth y DU.