Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Roedd Steffan yn iawn pan ddywedodd fod y Cynlluniad cyfan yn y ddadl honno wedi cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn. Mae'n bwysig bod pensiynau cyn-lowyr yn cael eu diogelu a bod trefniadau gyda Llywodraeth y DU sy'n dryloyw ac yn deg. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr angen iddi barhau i warantu’r gronfa bensiwn? Ac o ran y gwarged, mae’n edrych fel bod y trefniadau rhannu gwarged wedi bod o fwy o fudd i’r Llywodraeth nag i’r glowyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael ynglŷn â hyn, ac a ydych chi wedi ei gwneud yn eglur nad Llywodraeth Cymru yn unig sy'n siarad; y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd sy'n gwneud y pwyntiau hyn?