<p>Cysylltiad/Cangen Rheilffordd Heathrow </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:07, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, yn wir. Heathrow yw’r maes awyr prysuraf yn y DU o bell ffordd, a bydd hynny’n parhau i fod yn wir. Mae ei ddaearyddiaeth yn mynnu y bydd hynny’n wir; mae Gatwick yn rhy bell o'r rhan fwyaf o gymunedau yn y DU i gyrraedd yr un lefel â Heathrow. Ond mae'n hynod o bwysig, gan adeiladu ar y thema gynharach, bod pobl yn teimlo bod dewisiadau cludiant cyhoeddus ymarferol a di-dor ar eu cyfer. Yn hytrach na gadael y trên yn Reading a mynd ar fws rheilffordd-awyr yn Reading, mae'n hynod bwysig bod pobl yn gallu mynd i mewn i Faes Awyr Heathrow yn y ffordd rwyddaf bosibl, a bydd hynny’n annog mwy o bobl allan o'u ceir ac, wrth gwrs, yn helpu tagfeydd o amgylch y maes awyr.