Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
O ran arwyddion, nid dim ond y traffyrdd yw hi, ond cefnffyrdd. Felly, er enghraifft, efallai y bydd cyrchfannau hyd at chwe milltir o ffordd unffrwd neu 10 milltir o ffordd ddeuol aml-lefel neu draffordd yn gymwys ar gyfer arwyddion twristiaeth. Mae’r A470 a'r A465 yn gefnffyrdd, felly maen nhw wedi eu cynnwys yn y meini prawf. Gallaf ddweud ein bod ni’n annog awdurdodau lleol, a byddem yn annog Merthyr, i wneud cais i gael arwyddion ar gyfer atyniadau twristiaeth. Mae’r cynnig hwnnw, wrth gwrs, yn dal i fod ar y bwrdd.