Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Diolch am y cwestiwn. Mewn ymateb i faterion a godwyd yn adroddiad thematig 'y tu allan i oriau' yr ombwdsmon, a rhai achosion dilynol, bydd trefniadau ar gyfer rhaglen o adolygu gan gymheiriaid yn canolbwyntio ar reoli cleifion sy'n ddifrifol sâl mewn ysbytai acíwt, yn cael eu cwblhau yn fuan. Bydd gwaith yr adolygiad gan gymheiriaid yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.