– Senedd Cymru am 2:24 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf unrhyw newidiadau i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon, a chaiff busnes ar gyfer tair wythnos gyntaf y tymor newydd ei ddangos ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Yr wythnos hon, unwaith eto, yng nghyngor Caerdydd, rydym wedi gweld cynghorydd yn ymddiswyddo. Rydym wedi— [Torri ar draws.]
Wel efallai eich bod chi—. [Torri ar draws.] —
Gadewch i'r Aelod gael ei glywed, os gwelwch yn dda.
 phob parch, rwy’n codi mater pwysig iawn ynglŷn â gwleidyddion sy’n fenywod yn y ddinas hon yn cael eu bwlio. Byddaf yn datgan buddiant, gan fy mod yn gynghorydd yn yr awdurdod hwnnw. Dyma'r trydydd tro i mi godi’r mater hwn. Mae menyw arall eto wedi ymddiswyddo. Ceir penawdau ym mhapurau heddiw bod rhywun wedi ymweld â hi am 9.30pm, yn y nos, yn ei chartref, a bod llawer o bethau annerbyniol eraill wedi digwydd. A wnewch chi wneud datganiad os gwelwch yn dda y bydd Llywodraeth Cymru o’r diwedd yn bwrw ymlaen ag arolwg o’r holl wleidyddion sy’n fenywod yng Nghymru a gosod amserlen ar gyfer hynny?
Datganiad busnes ar gyfer busnes y Cynulliad Cenedlaethol Cymru hwn ac ar gyfer Llywodraeth Cymru yw hwn, ac fe wnes i ymateb i'r cwestiwn hwn yn briodol ychydig wythnosau yn ôl.
Bydd yr Ysgrifennydd busnes yn gwybod fy mod wedi cynnal digwyddiad heddiw yn adeilad y Pierhead, yn agos at fan hon, yn ein Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a dynnodd sylw at y gostyngiad tra sylweddol mewn rhywogaethau a chynefinoedd yn fyd-eang. Cafwyd cydnabyddiaeth, mae’n rhaid i mi ddweud, yn y digwyddiad hwnnw o'r camau da y mae Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’u cefnogi, yn enwedig â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn y blaen, ond tybed—. Un o'r meysydd y tynnwyd sylw ato oedd y mater o gaffael. Yn wir, croesewir y ffaith ein bod ni yn y sector cyhoeddus erbyn hyn wedi ymwreiddio’r mater o gyrchu pysgod mewn modd cynaliadwy, sy'n fater o bwys, nid yn unig yn fyd-eang, ond ym môr y Gogledd, y môr Celtaidd ac yn y blaen. Tybed a allwn ni neilltuo amser i gael datganiad i drafod caffael cynaliadwy, fel y gallwn ystyried, nid yn unig y ffordd y gall y sector cyhoeddus arwain ar gyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, ond cyrchu coed mewn modd cynaliadwy, nad yw’n unig yn fater o deimlo'n dda ynghylch o ble yr ydym yn cael coed, ond o gefnogi cymunedau brodorol mewn gwirionedd ym mhellafoedd y byd a fydd fel arall yn gweld eu cynefinoedd, eu bywoliaeth a'u cymunedau yn cael eu dinoethi.
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Rwy'n falch o glywed eich bod wedi cael digwyddiad llwyddiannus iawn yn ystod amser cinio. Rwy’n falch iawn o gadarnhau bod caffael cynaliadwy wrth wraidd ein datganiad polisi caffael Cymru, a gyhoeddwyd y llynedd ym mis Mehefin 2015. Rwy’n credu, os byddwn ni’n ystyried y mater hwn mewn cysylltiad ag asesiadau risg cynaliadwyedd ein holl gontractau a’n fframweithiau, mae hyrwyddo'r defnydd o fwyd cynaliadwy wedi’i ardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Morol yn hanfodol ar gyfer hynny. Rydym ni’n annog y defnydd o’r asesiad risg cynaliadwyedd hwnnw ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Wrth gwrs, mae hyn hefyd yn berthnasol i’n contractau bwyd newydd â’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, sy’n ymwneud â chyrchu pysgod cynaliadwy, er enghraifft. Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn hefyd lle y mae lansiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn berthnasol iawn iddo, ac mae hyn yn plethu â sawl elfen o'r Ddeddf o ran caffael cynaliadwy. Rwy'n siŵr y bydd cyfle i drafod neu i gael datganiad gan y Llywodraeth ar hyn maes o law.
Y trydydd o Ragfyr oedd y pumed flwyddyn ar hugain y cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl ag Anableddau, a’r thema oedd cyflawni 17 o nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a garem. Yn y cyd-destun hwn, a gaf i alw, yn ddelfrydol, am ddadl, neu o leiaf am ddatganiad, ar amcanion eleni o dan y diwrnod rhyngwladol, sy'n cynnwys asesu statws presennol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol a fydd yn cynnwys mwy o gynhwysiant ar gyfer pobl ag anableddau yng Nghymru? Gwn na wnaeth Llywodraeth Cymru gynnwys y confensiwn ar wyneb Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond ei bod wedi ei gynnwys yn Rhan 2 y cod ymarfer. Er gwaethaf hynny, ceir bwlch dealltwriaeth yn amlwg, lle y dywedodd un awdurdod lleol wrthyf, er enghraifft, nad oedd yn credu bod hyn yn berthnasol i'r broses dendro, dywedodd un arall nad oedd yn berthnasol i gyflogaeth a dywedodd un arall nad oedd yn berthnasol i ailgynllunio gwasanaethau i bobl wedi colli eu clyw a phobl fyddar, er gwaethaf y ffaith iddyn nhw ddweud bod eu hannibyniaeth yn cael ei gymryd oddi wrthyn nhw. Yn y cyd-destun hwn, ar ben-blwydd pump ar hugain amserol y diwrnod hwn, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno y byddai’n werth cael dadl neu o leiaf ddatganiad.
Diolchaf i Mark Isherwood am y cwestiwn yna, gan ei fod yn rhoi cyfle i ni gofio a myfyrio ar y ffaith mai 3 Rhagfyr oedd Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau. Ac, wrth gwrs, dyma lle, mewn gwirionedd, wrth ymateb i'r cwestiwn blaenorol, y mae cyfle yng Nghymru, rwy’n credu, wrth ddatblygu ein cod ymarfer, er enghraifft, ar gyfer caffael moesegol, lle y gallwn edrych yn benodol ar yr anghenion a’r materion hyn. Ond byddwn hefyd yn dweud fy mod i’n falch iawn o'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn glir iawn o ran ei hamcanion cydraddoldeb strategol, ac, wrth gwrs, amlygodd yr adroddiad a’r ddadl ddiweddar yma yn y Siambr yr hyn yr ydym ni’n ei wneud nid yn unig i asesu sut yr ydym ni’n gweithredu'r statws, o ran ymateb i amcanion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y diwrnod rhyngwladol, ond hefyd sut yr ydym ni’n cyflawni hynny o ddydd i ddydd.
Diolch i’r Gweinidog.