Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyhoeddi bod fy swyddogion wedi derbyn cynllun busnes ar gyfer banc datblygu Cymru, sy'n dal i fod mewn sefyllfa dda i gael ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth rheoliadol. Bydd pencadlys y banc yn y Gogledd, a’i brif flaenoriaeth yw helpu meicrofusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru i gael cyllid yn haws, ac yn benodol i fynd i'r afael â bylchau ariannu lle ceir methiant yn y farchnad. Gan weithio ochr yn ochr â darparwyr ariannol eraill, bydd banc datblygu Cymru yn elwa i’r eithaf ar drosoledd y sector preifat. Gan weithio ochr yn ochr â Busnes Cymru, bydd y banc yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth a chyngor rheoli. Bydd cyllid gwell, cefnogaeth well yn golygu busnes gwell. Mae Cyllid Cymru wedi ymgynghori'n eang â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod ei gynllun busnes yn ystyried y materion ariannol y mae busnesau yn eu hwynebu, ac i nodi atebion priodol.
Rwy'n arbennig o falch eu bod wedi datblygu perthynas waith agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd, a bydd hefyd yn ymgysylltu â'r byd academaidd. Maen nhw’n creu uned wybodaeth i olrhain yr amrywiaeth o faterion ariannol y mae busnesau yng Nghymru yn eu hwynebu o bryd i'w gilydd, ac yn nodi’r modd gorau o fynd i’r afael â’r rhain er budd economi Cymru. Bydd yr uned wybodaeth hon yn datblygu i gyflawni swyddogaeth ymchwil strategol, gan greu ystod o atebion arloesol newydd yn amrywio o gronfeydd cyd-fuddsoddi i gronfeydd wedi'u teilwra sy'n benodol i ddiwydiant. Yn y modd hwn, bydd y banc yn helpu busnesau unigol i gynyddu trosiant a swyddi, ac i helpu i dyfu economi Cymru hefyd.
Bydd y banc datblygu yn cynyddu’r cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru, gyda tharged o ddarparu mwy na £1 biliwn o gymorth buddsoddi dros y pum mlynedd nesaf. Rwy’n dweud ‘mwy na’ gan fy mod i’n dymuno i'r banc datblygu fod yn uchelgeisiol ac i chwilio am ffyrdd arloesol o wella trosoledd sector preifat. Bydd y banc yn creu ac yn diogelu dros 5,500 o swyddi y flwyddyn erbyn 2022. Rhoddwyd y dasg i’r banc o gynyddu lefelau buddsoddi uniongyrchol i £80 miliwn y flwyddyn. Rwyf hefyd yn herio'r banc i wella ei werth am arian yn barhaus, ac i weithio tuag at drosoledd sector preifat uchelgeisiol i leihau'r gost fesul swydd. Bydd yn gweithio'n agos gyda Busnes Cymru i sicrhau bod cymorth angenrheidiol ag arweinyddiaeth, mentora a hyfforddiant yn dod law yn llaw â’r cymorth ariannol er mwyn helpu busnesau entrepreneuraidd a busnesau sy’n tyfu i fod yn llwyddiannus. Rwy’n herio'r banc i wella symlrwydd a hygyrchedd ei lwyfan digidol. Rwy’n awyddus i’w weld yn gweithio gyda Busnes Cymru i greu un porth mynediad a chynyddu nifer y busnesau sy'n derbyn cyngor gan Lywodraeth Cymru o'r lefel bresennol, sef 30,000 y flwyddyn.
Bydd y banc yn gallu cefnogi rhaglenni ar draws nifer o bortffolios, gan gynnwys rhai fy nghydweithiwr hybarch, yr Aelod Cynulliad Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Bydd yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ym maes tai ar y cynllun Cymorth i brynu-Cymru llwyddiannus, a chyflawni ein buddsoddiad o £290 miliwn mewn ail gam i gefnogi adeiladu mwy na 6,000 o gartrefi newydd erbyn 2021. Mae’r estyniad i’r cynllun Cymorth i Brynu-Cymru wedi ei groesawu'n eang gan ddarpar berchnogion tai ac adeiladwyr tai fel ei gilydd. Bydd yr estyniad hefyd yn helpu'r Llywodraeth i gyflawni ei hymrwymiad maniffesto i sicrhau bod 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ar gael ledled Cymru. Ceir hefyd y gronfa busnes Cymru newydd, gwerth £136 miliwn, a gyhoeddais yn ôl ym mis Medi. Mae'r gronfa hon, a gefnogir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, yn un o brif ffynonellau’r banc, gan y bydd yn cynnig atebion ariannu hyblyg i gannoedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru dros y saith mlynedd nesaf.
Bydd y banc datblygu yn ceisio cryfhau a thyfu’r ecosystem ariannol yng Nghymru. Ni fydd yn ceisio cymryd lle na chystadlu â darparwyr ariannol eraill, ond yn hytrach, bydd yn gweithio gyda nhw i gefnogi eu cyllid ar gyfer busnesau. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â busnesau a banciau, gan ddarparu cyllid ychwanegol lle bo angen. Cafwyd methiant eang yn y marchnadoedd ariannol ar draws y byd o ganlyniad i’r wasgfa gredyd ac achosodd y dirwasgiad byd-eang gwaethaf mewn cenhedlaeth.
Heddiw, yng Nghymru, mae’r marchnadoedd ariannol wedi bod yn ailagor yn araf deg a fesul dipyn i gefnogi ein hadferiad, ond mae methiant yn y farchnad yn dal i fodoli mewn meysydd fel meicrofusnesau a busnesau bach, mewn cwmnïau sy’n dechrau ac mewn busnesau entrepreneuraidd lle nad yw'r model busnes wedi ei brofi. Mae'r banc datblygu yn cydnabod pa mor anodd yw hi o hyd i fusnesau bach a chanolig eu maint gael gafael ar gyllid ecwiti. Bydd y banc yn cynnal rhwydwaith o angylion buddsoddi ledled Cymru ac yn annog buddsoddiad ecwiti mewn busnesau sy’n tyfu yng Nghymru trwy gronfa cyd-fuddsoddi angylion ar y cyd. Wrth i fusnesau canolig eu maint gynllunio i dyfu, bydd y banc yn hwyluso cysylltiadau â sefydliadau ecwiti mwy o faint yn Llundain. Bydd hefyd yn helpu busnesau yng Nghymru i gael mynediad at gyllido torfol a ffynonellau arloesol eraill o gyllid.
Wrth i’r economi barhau i adfer, rydym yn disgwyl i natur a graddfa methiant y farchnad newid ac rwy'n falch o weld y bydd y banc yn monitro amodau’r farchnad ac anghenion busnes sy'n newid, gan ymateb yn briodol drwy gynnig cynnyrch newydd a dulliau gweithio newydd. Rwy’n disgwyl i'r banc, fel sefydliad di-elw, feithrin cysylltiad â mentrau cydfuddiannol a chymdeithasol, gan gynnwys cymorth ar gyfer cwmnïau cydweithredol, gweithiwr sy’n prynu cwmni ac undebau credyd. Rwy’n gofyn i'r banc gysgodi'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ac i edrych ar gyfleoedd ar gyfer partneriaeth.
Gan fod y banc datblygu yn sicrhau bod cyllid preifat ar gael yn fwy hwylus, bydd yr angen am gymorth grant gan y Llywodraeth yn lleihau. Drwy ddarparu cefnogaeth ariannol drwy'r banc datblygu a manteisio i’r eithaf ar drosoledd cyllid preifat, bydd y banc datblygu yn helpu i wella gwerth am arian i Lywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru yn sylweddol. Rwy'n credu y bydd y banc datblygu yn dod yn frand Cymreig cryf, gan ddarparu cymorth ariannol cadarnhaol lle mae ei angen fwyaf i wneud y mwyaf o’r effaith fuddiol ar gyfer economi Cymru. Rwy’n gofyn i fy swyddogion yn awr ymgysylltu â'r holl randdeiliaid allweddol ledled Cymru er mwyn sicrhau bod y cynllun busnes newydd ar gyfer banc datblygu Cymru yn bodloni anghenion busnesau ac yn helpu pob un i wireddu ei botensial.
Mae banc datblygu Cymru yn arwydd clir o'r dull strategol yr ydym yn ei arddel i sicrhau Cymru sy'n fwy ffyniannus a diogel. Mae'n enghraifft o sut yr ydym ni’n galluogi'r amodau sydd eu hangen i ganiatáu i fusnesau ffynnu ac i greu a chadw swyddi o ansawdd uchel. Mae'r cynnydd yr ydym yn ei wneud yn dangos sut yr ydym am ganolbwyntio ein hymyraethau ar gyflawni mwy o ddiogelwch ariannol i fusnesau fel y gallant ddatblygu twf a ffyniant i bawb.