5. 4. Datganiad: Banc Datblygu Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 4:11, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich datganiad, rydych chi’n dweud eich bod yn awyddus i weld y banc datblygu yn gweithio gyda Busnes Cymru i greu porth sy’n un pwynt mynediad. A gaf i bwysleisio pa mor hanfodol bwysig yw hi bod y banc datblygu yn gweithio'n adeiladol, yn rhagweithiol ac yn effeithiol gyda Busnes Cymru, a hefyd bod y banc datblygu a'i swyddogaethau yn hawdd i ficrofusnesau gael gafael arnynt? Yn olaf, yn amlwg, byddwn ar fai pe na byddwn i’n croesawu’r ffaith bod pencadlys y banc datblygu wedi’i leoli yn y gogledd, a thra byddwn i'n disgwyl i'r banc wasanaethu busnes ym mhob cwr o’r wlad, rwy’n gobeithio y bydd lleoliad y banc yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth newydd yn yr ardal ei hun.