Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd. Rydw i, yn syml iawn, yn codi i nodi bod y Pwyllgor Cyllid wedi cymeradwyo’r dull yma o ddelio â’r mater yma. Mae’n amlwg, gyda phwerau trethiannol yn dod i’r Cynulliad am y tro cyntaf, y byddwn ni’n awyddus yn y Pwyllgor Cyllid ein bod ni’n deddfu yn y fan hon ar bob cyfle posibl, os yw hynny’n ymarferol. Ond, yn y cyd-destun hwn, sydd yn ymwneud ag osgoi trethi dros y Deyrnas Gyfunol—ac, wrth gwrs, sy’n cynnwys osgoi trethi Cymreig pan fydd y rheini wedi cael eu dodi yn eu lle—rydym ni’n gweld bod yna fudd i ddeddfu ar y cyd gyda San Steffan, er efallai nad yw San Steffan bob tro yn cytuno y dylem ni fod efallai’n mynnu ein llais yn y mater yma. Y ffaith yw y bydd y Cynulliad hwn yn y flwyddyn newydd yn cael ei ofyn gan y pwyllgor i ystyried y dreth newydd, y dreth drethiannol gyntaf, y dreth sy’n ymwneud â thrafodion tir. A bydd honno’n cynnwys rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi, sydd yn cynnwys modd o ddelio â threthi ar draws Cymru a Lloegr. Felly, mae yn briodol ein bod ni’n lleisio barn ar hwn, ond mae’r Pwyllgor Cyllid hefyd o’r farn bod dynesiad y Llywodraeth yn y cyd-destun yma yn dderbyniol, ac felly yn cymeradwyo bod y cynnig deddfwriaethol yn cael ei dderbyn.