Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch. Roeddwn yn meddwl bod yr Aelod am fy ngwahodd i ymuno ag ef mewn sesiwn gasglu sbwriel, a buaswn yn fodlon iawn i wneud hynny, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl un dros yr ychydig fisoedd diwethaf. [Chwerthin.] Ond rwy’n sicr yn llongyfarch y grŵp. Mae wedi bod mor dda gweld cymunedau’n dod at ei gilydd ac yn dangos cymaint o falchder. Euthum draw i gasglu sbwriel mewn ardal yng Nghaerdydd ychydig fisoedd yn ôl, ac roedd yn dda gweld trigolion yn dod draw i ddiolch i’r gwirfoddolwyr am wneud eu cymuned yn lle gwell o lawer. I ateb eich cwestiwn ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud ynglŷn â thipio anghyfreithlon, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod awdurdodau lleol yn gorfodi dirwyon mewn perthynas â thipio anghyfreithlon. Cyfarfûm yn ddiweddar â Phil Bale, arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, am fod ganddynt broblem benodol gydag un bag bin du o sbwriel yn cael ei adael, ac efallai nad yw pobl yn sylweddoli bod hynny’n achos o dipio anghyfreithlon, ond mae’n bendant yn wir—er mai un bag ydyw. Felly, rydym yn edrych i weld pa ddirwyon y gellir eu gorfodi mewn perthynas â hynny hefyd.