Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Mae’n eithaf clir mai’r neges yma yw bod ardaloedd trefol angen aer glân o’r ansawdd gorau posibl er mwyn bod yn wirioneddol ddeniadol i’r boblogaeth leol, ond hefyd o ran denu mewnfuddsoddiad a’u hiechyd economaidd. Mae yna ffyrdd y gallwn reoli hynny yn awr, hyd yn oed cyn ein bod yn gwahardd ceir diesel yn ffurfiol. Mae’n bwysig iawn ein bod, yng Nghymru, yn gweld yr arweinyddiaeth y gallem fod yn ei rhoi i’r DU gyfan, a bydd hynny’n sicrhau manteision mawr iawn i ni’n economaidd hefyd.