Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Wel, rwy’n credu mai’r hyn y maent yn galw hynny yw gwyddoniaeth a symud ymlaen a dysgu. Buaswn yn sicr yn hoffi gosod targed i gael gwared ar geir tanwydd ffosil erbyn dyddiad penodol, ond i wneud hynny mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gennym y metro, er enghraifft, lle y mae gennym y drafnidiaeth gynaliadwy honno ar waith i’r cyhoedd ei defnyddio. Ond yn sicr, y ffordd ymlaen yw cael gwared ar geir diesel a cheir tanwydd ffosil.