Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y byddwch yn gwybod fy mod wedi cyfarfod â chryn dipyn o deuluoedd sy’n ceisio lloches yn ddiweddar yn Abertawe mewn perthynas â’r amodau erchyll y mae llawer ohonynt yn eu hwynebu o ran darpariaeth y Swyddfa Gartref drwy gwmni Clearsprings Ready Homes. Roeddwn yn meddwl tybed a fuasech yn gallu hwyluso sgwrs gyda’r Swyddfa Gartref ynglŷn â’r amodau ofnadwy hyn, er gwaethaf y ffaith fod llawer o landlordiaid preifat yng Nghymru wedi cysylltu â mi yn dweud eu bod yn prydlesu eu cartrefi i’r Swyddfa Gartref i Clearsprings eu defnyddio fel tai ar gyfer ceiswyr lloches. Felly, er nad yw’n benderfyniad uniongyrchol i chi ei wneud fel Gweinidog tai yma, o bosibl, y canlyniad anochel yw bod gennym gyfrifoldebau yn y maes hwn, a hoffwn i chi gyflwyno sylwadau i ddangos difrifoldeb y sefyllfa yng Nghymru erbyn hyn.