Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd. Roedd brîff cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol Sefydliad Bevan ym mis Gorffennaf 2016 ar dlodi yn dweud bod ffigurau diweddaraf arolwg yr Adran Gwaith a Phensiynau o aelwydydd o dan yr incwm cyfartalog yn dangos bod aelwydydd incwm isel yn parhau i fod yn broblem sylweddol yng Nghymru, gyda mwy nag un o bob pump o bobl yn byw ar incwm aelwydydd sy’n is na 60 y cant o’r canolrif, a’r plant hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf o dlodi, er bod y grŵp mwyaf o bobl ar incwm isel yn oedolion o oedran gweithio. Ac roeddent yn ychwanegu nad yw’r tueddiadau tymor hwy a’r tueddiadau mwy diweddar o ran tlodi wedi cael llawer o effaith ar sefyllfa Cymru o’i chymharu â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU, gyda Chymru’n parhau i fod ag un o’r cyfraddau uchaf o dlodi yn y DU ar gyfer pob grŵp oedran. Pam hynny, Ysgrifennydd y Cabinet?