Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Dau bwynt. Yn gyntaf oll, rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am awgrymu ymateb i fy nghwestiwn yn gynharach. Ond a gaf fi ei atgoffa mai ei Lywodraeth ef, a oedd mewn grym yn yr wythdegau, a chwalodd Gymru’n llwyr, gyda’r gyfradd uchaf o ddiweithdra erioed yn y DU? Ac roedd ei ffrind ar y fainc flaen yn y fan acw, yn UKIP, yn rhan o’r Llywodraeth ar y pryd hefyd, felly ni all ef ysgwyd ei ben chwaith. Mae’r ail bwynt sy’n ymwneud â Cymunedau am Waith a rhaglen Esgyn yn un pwysig. Nid wyf wedi osgoi’r ffaith na fyddwn yn rhyddhau ffigurau; rwy’n fwy na pharod i edrych arnynt yn y flwyddyn newydd a rhoi’r manylion hynny i’r Cynulliad. Mae hyn yn ymwneud â chael pobl sydd ar y pen caletaf yn ôl i’r gweithle—nid yw’n garfan hawdd o bobl i ymdrin â hwy, ond rydym yn llwyddo a dylem ddathlu llwyddiant. Rhowch y gorau i ddifrïo Cymru.