Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddoch y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol eleni tuag at ddarparu 20,000 o gartrefi newydd fforddiadwy. Rhagorwyd ar darged tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru o 10,000 gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn y Cynulliad diwethaf, gyda’r cytundeb cyflenwad tai rhwng Llywodraeth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn chwarae rhan bwysig i gyrraedd y targed hwnnw. Pa gamau y gall y bartneriaeth honno eu cymryd i gyrraedd ein targedau newydd uchelgeisiol, a sut y bydd pobl Islwyn yn elwa’n uniongyrchol o hyn?