<p>Elusennau sy’n Cefnogi Teuluoedd</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:38, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da. Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o sefydliadau sy’n darparu cymorth i deuluoedd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Yn fy mhortffolio, mae’r grant cyflawni ar gyfer plant a theuluoedd, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yn rhoi cefnogaeth i grwpiau yn y trydydd sector sy’n ceisio cyflawni blaenoriaethau cefnogi lles, trechu tlodi, ac yn wir, mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.