<p>Elusennau sy’n Cefnogi Teuluoedd</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:40, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar iawn am y gwahoddiad ac yn edrych ymlaen at ei dderbyn yn ffurfiol. Rwy’n gyfarwydd â Penparcau; yn wir, croesawais eu trydariad ynglŷn â’r ffaith fod yna fywyd ar ôl Cymunedau yn Gyntaf. Credaf fod yn rhaid i ni fod yn uchelgeisiol o ran y cyfleoedd—[Anghlywadwy.]—a’n bod yn dysgu gan sefydliadau o’r fath. Rwyf wedi siarad â’r Gweinidog blaenorol ynglŷn â’r sefydliad hwn a byddwn fwy na pharod i ddod i ymweld a siarad â hwy ynglŷn â’r llwyddiant y maent wedi ei gael.