<p>Y Gymuned Teithwyr</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:41, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i wella canlyniadau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr drwy fframwaith gweithredu a chynllun cyflawni ‘Teithio at Ddyfodol Gwell’. Mae cryn gynnydd wedi’i wneud ers 2014 a chyhoeddwyd diweddariad i’r cynllun ym mis Mawrth eleni.