Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi, o ystyried bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad Taylor o gyfiawnder ieuenctid yn ddiweddar, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ar drywydd rhagor o ddylanwad dros gyfiawnder ieuenctid yng Nghymru drwy’r pwerau sydd gennym eisoes mewn perthynas â phlant sy’n agored i niwed? Felly, er enghraifft, cynigiodd y Llywodraeth ddiwethaf y dylid sefydlu partneriaeth ailintegreiddio ac ailsefydlu statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond ni chawsom amser oherwydd y cyfnod cyn etholiadau’r Cynulliad. Felly, a yw’n bryd rhoi hyn yn ôl ar yr agenda ac archwilio meysydd eraill lle y gallwn, yng Nghymru, wneud pethau’n wahanol a gwneud pethau’n well?