– Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2016.
Rydym wedi derbyn dau gwestiwn brys y prynhawn yma o dan Reol Sefydlog 12.66. Galwaf ar Llyr Gruffydd i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.
A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad am effaith bwriad Llywodraeth y DU i leihau darpariaeth Swyddfeydd Post mewn ardaloedd gwledig? EAQ(5)0092(CC)[W]
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd swyddfeydd post a’r gwasanaethau pwysig y maent yn eu darparu i gymunedau lleol. Fel y gŵyr yr Aelod, nid yw hwn yn fater datganoledig, ond yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar rwydwaith y swyddfeydd post ar hyn o bryd. Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys unrhyw gynigion penodol ar gyfer swyddfeydd post gwledig.
Wel, nid wyf yn siŵr a ydy hynny yn gywir, a dweud y gwir, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae yna ddyletswydd ar hyn o bryd i’r Swyddfa Bost sicrhau bod yna ddarpariaeth o fewn rhyw 3 milltir i 95 y cant o’r boblogaeth wledig o fewn y Deyrnas Gyfunol. Mae hynny yn cael ei adolygu fel rhan o’r hyn sydd yn cael ei weithredu gan y Llywodraeth yn San Steffan ar hyn o bryd, a phwy â ŵyr beth fydd canlyniad hynny. Ond yn sicr, mae e yn destun pryder i ni gyd, ac ar ben hyn, rŷm ni yn gwybod bod y sybsidi mae Llywodraeth San Steffan yn ei roi i’r rhwydwaith swyddfeydd post yn dod i ben mewn ychydig dros flwyddyn, ym mis Mawrth 2018. Nawr, gyda swyddfeydd post, wrth gwrs, ar eu prysuraf ar adeg y Nadolig fel hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni pa fewnbwn rŷch chi fel Llywodraeth wedi ei roi i’r adolygiad yma sydd yn digwydd, yn enwedig o gofio, wrth gwrs, mai dim ond wythnos diwethaf roedd y Prif Weinidog yn dweud wrthyf i, mewn ateb i gwestiwn ynglŷn â dyfodol banciau gwledig, mae ei flaenoriaeth e nawr yw sicrhau dyfodol y rhwydwaith swyddfeydd post, oherwydd eu bod nhw yn gallu darparu rhai gwasanaethau bancio? Ac a fyddech chi yn cytuno â fi, Ysgrifennydd, mai’r ffordd orau nawr i sicrhau dyfodol y swyddfeydd post yng Nghymru yw sicrhau bod y cyfan yn cael ei ddatganoli i ni fan hyn?
Rwy’n sicr yn cefnogi’r egwyddor o gefnogi swyddfeydd post yn ein cymunedau, ac mae hynny’n briodol, ond mae’r Aelod yn iawn mai penderfyniad ar gyfer Llywodraeth y DU yw hwn. Nid wyf yn ymwybodol o’r cynlluniau i gau swyddfeydd post gwledig. Credaf efallai fod yr Aelod wedi darllen y stori hon yn y ‘Telegraph’—[Torri ar draws.]—a ffynonellau eraill o wybodaeth. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, mae Llywodraeth bresennol y DU wedi ymrwymo i gynnal rhwydwaith y swyddfeydd post ar ei faint presennol o 11,600 o ganghennau, ond mae’n iawn i nodi y dylem gadw llygad ar yr hyn y maent yn ei wneud yn San Steffan, oherwydd pwy a ŵyr beth y gallant ei wneud gyda’r swyddfeydd post yn y dyfodol.
Mae yna berig, serch hynny, i nifer o gymunedau, achos rŷm ni eisoes yn colli’r banciau—fel sydd wedi cael ei drafod sawl gwaith yn y Cynulliad yn ddiweddar—ac ateb i hynny, i nifer o gyrff, gan gynnwys y Llywodraeth fan hyn a’r Llywodraeth yn San Steffan, yw sôn am ddefnyddio’r adeiladwaith swyddfeydd post i ddelio â hyn. Nawr, mae yna ddwy broblem yn y fan yna. Mae’r broblem y mae Llyr Gruffydd eisoes wedi ei hamlinellu, ond yr ail broblem yw nad yw pob swyddfa post, yn enwedig mewn rhai o’n trefi bach ni, yn gallu ymdopi gyda busnesau. Beth sydd ei angen yw ffenest ddiogel er mwyn delio â’r arian sy’n cael ei roi i mewn i swyddfa bost gan fusnes. Os ydym ni’n colli ein banciau, mae’n rhaid i swyddfeydd post fod yn gallu delio â busnesau bach cefn gwlad a threfi bach. Mae yna enghraifft dda o hyn yn digwydd yn ddiweddar ym Mlaenau Ffestiniog, lle mae’r swyddfa bost wedi symud, ond drwy symud mae wedi diogelu y gallu i ddelio â busnesau bach. Dyna’r ffordd yr ydym ni eisiau gweld pethau’n datblygu. Er nad yw’r peth wedi’i ddatganoli, mae’n hynod bwysig bod y Llywodraeth hyn yn pwyso ar Lywodraeth San Steffan i sicrhau bod y ddarpariaeth yng nghefn gwlad Cymru yn ddigonol, nid yn unig ar gyfer unigolion ond ar gyfer busnesau bach yn ogystal.
Mae’r Aelod yn iawn; bwriad yr ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yw llywio’r cais nesaf am gymorth gwladwriaethol er mwyn caniatáu i’r Llywodraeth barhau i ariannu elfennau aneconomaidd rhwydwaith Swyddfa’r Post, a chredaf y dylent edrych ar hynny’n ofalus iawn. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud sylwadau a byddwn yn annog yr Aelod i wneud yr un peth.
Mewn gwirionedd, credaf eich bod newydd ateb fy nghwestiwn. Credaf ein bod oll yn dibynnu ar yr erthygl honno yn y ‘Telegraph’ lle y mae adran fusnes, ynni a strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn dweud nad yw’r ymgynghoriad yn ymwneud â chau canghennau, a dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Post fod yr ymgynghoriad yn rhan o gais y Llywodraeth i’r Undeb Ewropeaidd i barhau â’r cymorth gwladwriaethol i’r rhwydwaith.
Croesawaf y ffaith eich bod yn dweud eich bod am wneud sylwadau. Tybed a allwch gadarnhau y byddwch yn rhannu’r sylwadau a wnewch a’r ymatebion a gewch gyda’r Cynulliad.
Credaf y byddai’n anodd pe baem yn dechrau cael cwestiynau brys gan y ‘Telegraph’ bob wythnos—am ei fod yn y ‘Telegraph’. Buaswn yn awgrymu nad oedd hynny’n wir yn yr achos hwn, ond gwelais innau’r erthygl yn y cyhoeddiad hwnnw. Byddaf yn hapus i rannu ymateb y Llywodraeth gyda’r Aelodau yn ogystal â’r ymateb gan Weinidogion y DU.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.