Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Wel, Ddirprwy Lywydd, rwyf mewn perygl yn awr o ddarllen y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth. Mae datganiad ysgrifenedig y bore yma yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r adolygiad o ddata a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach. Mae’r datganiad yn nodi dyddiad cychwyn yr ymchwiliad cyhoeddus, ac rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn croesawu hynny, ac mae’n nodi rhai posibiliadau o ganlyniad i ymchwiliad cyhoeddus.