7. 5. Dadl Plaid Cymru: Troi Allan Aelwydydd â Phlant

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 3:46, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

[Torri ar draws.] Tynnu sylw ataf fy hun. [Chwerthin.]

Rhwng y ddadl hon a’r Nadolig, bydd 16 o blant yn colli eu cartrefi am y byddant yn cael eu troi allan gyda’u teuluoedd o dai cymdeithasol. Bydd y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £600,000 yn ymdrin â chanlyniadau’r achosion hyn o droi allan. Mae’r plant hyn yn debygol o wynebu canlyniadau gydol oes ar eu hiechyd, ar eu haddysg ac felly, ar eu lefelau incwm. Felly, mae ein cynnig heddiw yn syml: dylai Cymru fod yn genedl lle nad yw plant bellach yn wynebu cael eu troi allan a digartrefedd. Eto i gyd, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae yna 792 o deuluoedd â phlant mewn llety dros dro, ac mae 84 o’r teuluoedd hyn mewn hostelau. Ddoe, cafwyd adroddiad ar y BBC am sgandal pobl ifanc yn eu harddegau mewn llety gwely a brecwast ac mae’r ffigurau’n dangos 27 o deuluoedd gyda phlant mewn llety gwely a brecwast, sydd wedi dyblu bron ers y chwarter diwethaf. Digon yw digon.

Nid dyma’r tro cyntaf i ni drafod digartrefedd, troi allan ac amddiffyn plant yn y Siambr hon. Efallai pe bai’r ystadegau yn dangos gwelliant, byddai llai o frys yn perthyn i’r ddadl hon. Ond dangosodd yr wythnos diwethaf, ymhell o fod yn dangos gwelliant, mae pethau’n gwaethygu. Dangosodd adroddiad yr wythnos diwethaf ar dlodi gan Sefydliad Joseph Rowntree fod achosion o droi allan gan landlordiaid cymdeithasol wedi cynyddu yn y rhan fwyaf o’r DU, gan gynnwys tuedd ar i fyny yng Nghymru.

Mae ymchwil Shelter Cymru yn amcangyfrif bod 500 o blant wedi cael eu troi allan o dai cymdeithasol yn 2015-6. Dyna 500 o blant â risg uwch o broblemau iechyd, mwy o risg o gyrhaeddiad addysgol is ac felly, mwy o risg o ddod yn oedolion sy’n byw mewn tlodi—ac nid oedd angen iddo fod wedi digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chanmol yn haeddiannol am gyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd gyda’r dystiolaeth gynnar yn dangos rhywfaint o lwyddiant. Ond hoffwn atgoffa’r Aelodau mai’r Llywodraeth hon a wrthwynebodd ymdrechion Jocelyn Davies i gael gwared ar brawf Pereira a gwrthwynebu ein hymdrechion i ymestyn angen blaenoriaethol ym maes tai i bawb o dan 21 oed a rhai sy’n gadael gofal hyd at 25 oed.

Fodd bynnag, nid yw deddfwriaeth ond yn rhan o’r hyn y dylem ei wneud i atal achosion o droi allan ac atal digartrefedd. Bydd fy nghyd-Aelodau’n ymhelaethu ar y pwynt hwn yn ddiweddarach, ond mae llawer mwy y dylai Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ei wneud i sicrhau bod gennym bolisi dim troi allan ar gyfer plant.

Mae dros 80 y cant o achosion o droi allan yn digwydd oherwydd ôl-ddyledion rhent. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion hyn, yn ôl ymchwil Shelter Cymru yn ddiweddar, yn bobl sydd mewn gwaith ond ar gyflogau isel ac incwm anwadal yn aml. Mae’r rhan fwyaf o bobl mewn tai cymdeithasol ac ar fudd-dal tai mewn gwaith ac yn aml mewn swyddi sy’n galw am waith caled ac ymdrech gorfforol. Y broblem go iawn yw hyn: mae gennym system fudd-daliadau sy’n analluog i ddeall patrymau gwaith ar y pen isaf. Fel y mae’r adroddiad yn ei roi, ac rwy’n dyfynnu:

Gall patrymau gwaith incwm isel olygu newidiadau aml mewn amgylchiadau, gydag oriau ac incwm weithiau yn newid bob mis neu hyd yn oed bob wythnos. Mae hyn yn arwain at anawsterau ac anghysondebau o ran talu Budd-dal Tai, gan roi tenantiaethau mewn perygl.

Gall datrys hyn fod mor syml mewn gwirionedd â chael landlordiaid cymdeithasol, atebion tai ac adrannau budd-daliadau tai i gyfathrebu â’i gilydd.

Mae hyn yn gadael cyfran lai sy’n weddill o achosion o droi allan lle y ceir anghenion mwy cymhleth. Mae hyn yn aml yn cynnwys iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu ffyrdd o fyw caotig eraill sy’n golygu y gallai rhenti beidio â chael eu talu neu fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd. Nid yw llawer o swyddogion tai yn cael eu hyfforddi i adnabod neu gynorthwyo pobl ag anghenion iechyd meddwl neu anghenion eraill. Mae swyddogion tai yn aml yn camddehongli hyn fel amharodrwydd i ymgysylltu.

Lle y mae anghenion cymorth ychwanegol yn arwain at ôl-ddyledion, mae bygythiadau troi allan yn gwneud pethau’n waeth—rwyf wedi ei weld fy hun yn fy rhanbarth. Mae tenantiaid yn aml yn ofni awdurdod ac yn teimlo na allant ennill, felly mae rhybuddion troi allan eu hunain yn rhwystro cynnydd, gan droi’r berthynas yn un elyniaethus a gwneud ateb yn llai tebygol yn y tymor hir.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos y gall landlordiaid cymdeithasol fod yn anhyblyg ac yn llym wrth ofyn am ôl-ddyledion—dyfynnaf o’r adroddiad eto:

Roedd yn rhaid i un tenant dalu diffyg o £130 y mis, gan gynnwys £30 fel "taliad wrth gefn" i’r landlord. Dywedodd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig wrthi, os oedd hi’n fyr o geiniog eto hyd yn oed, byddent yn mynd â hi’n ôl i’r llys i’w throi allan.

Mae hyn yn dangos y gallai llawer o’r 500 o’r achosion o droi allan a oedd yn ymwneud â phlant y llynedd fod wedi cael eu hosgoi.

Felly, beth am y teuluoedd hynny y mae eu budd-daliadau’n cael eu talu’n brydlon ond sy’n dal i wrthod talu rhent ac yn cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n dinistrio’r gymdogaeth y maent yn byw ynddi? Mae’n ddigon teg i’r 0.01 y cant o oedolion sy’n perthyn i’r categori hwnnw wynebu cael eu troi allan fel y dewis olaf. Byddai plentyn sy’n byw mewn amodau o’r fath yn cael ei ystyried yn agored iawn i niwed ac mae’n debyg y byddai wedi cael ei roi mewn gofal ymhell cyn i’r rhybudd troi allan ddechrau beth bynnag.

Felly, ar ôl gweithredu ein holl newidiadau, os oes cyfran fechan o’r 500 o blant hynny’n dal i wynebu’r broses droi allan ac nad oes unrhyw dystiolaeth o esgeulustod neu gam-drin a fyddai’n cyfiawnhau gorchymyn gofal, yna dylem gyfarwyddo awdurdodau lleol i ddefnyddio taliadau disgresiynol i gynnal y denantiaeth.

Mae Shelter Cymru yn amcangyfrif bod y gost o droi allan ac achosion sy’n dod yn agos at droi allan yn £24.3 miliwn bob blwyddyn. Nid yw’r amcangyfrif hwn yn cynnwys canlyniadau iechyd hirdymor neu ganlyniadau addysgol i blant. O ystyried bod achosion o droi allan yn digwydd pan fydd ôl-ddyledion fel arfer rhwng £1,500 a £2,500, mae hyn yn golygu ein bod yn gwario llawer mwy yn gorfodi gorchmynion troi allan nag y byddai’r refeniw a gollwyd yn ei gyfiawnhau.

I’r nifer fach iawn o deuluoedd nad oes ateb wedi’i ganfod ar eu cyfer eto, mae’r achos ariannol ar ei ben ei hun yn cyfiawnhau peidio â bwrw ymlaen â’r troi allan. I’r rhai sy’n honni y dylem gadw’r gallu i droi allan, rwy’n meddwl bod yn rhaid iddynt ateb o ble y daw’r £24 miliwn hwn. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau ac at gloi’r ddadl hon. Diolch yn fawr.