Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Lywydd, rwy’n hapus i gefnogi’r cynnig, sy’n adlewyrchu’r gwaith sy’n cael ei wneud eisoes gan Lywodraeth Cymru a’r cynghorau, a’n hymrwymiad ar y cyd i fynd â hyn ymhellach. Mae atal digartrefedd a mynd i’r afael â’i achosion sylfaenol yn parhau’n flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle y mae plant yn y cartref. Gall digartrefedd neu’r bygythiad ohono effeithio’n ddinistriol ar oedolion, ac effeithio’n ddifrifol ar blant. Gall greu pwysau sy’n niweidio iechyd a lles pobl, sy’n arwain at blant yn dioddef o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod—gall effeithio arnynt am weddill eu bywydau. Mae hwn yn fater y dylai pawb bryderu yn ei gylch ac rydym yn gweld yma ein bod wedi ymrwymo’n llwyr i fynd i’r afael ag ef.
Bydd llawer o bobl wedi gweld a chael eu heffeithio gan gynhyrchiad diweddar Channel 5, sef ‘Slum Britain: 50 Years On’. Er fy mod yn ddiolchgar fod pethau’n gwella yng Nghymru, rydym yn ymwybodol iawn fod llawer mwy i’w wneud. Mae achosion o droi allan o dai yn ffactor sy’n cyfrannu’n sylweddol gan arwain yn uniongyrchol at ddigartrefedd, ac roedd yna dueddiadau cadarnhaol cyffredinol yn 2015, gyda llai o adfeddiannu, hawliadau a gorchmynion, a llai o adfeddiannu morgeisi a gwarantau troi allan. Yn anffodus, roedd cynnydd, fodd bynnag, o 8 y cant yn nifer y gorchmynion adfeddiannu gan landlordiaid preifat, ac mae angen i ni roi sylw i hynny.
Mae ein gwaith ar ddiwygio’r ddeddfwriaeth ddigartrefedd yng Nghymru—Deddf 2014—wedi creu fframwaith newydd sy’n sicrhau y bydd pob aelwyd yn cael eu helpu o ran eu hatal rhag bod yn ddigartref lle bynnag y bo modd, ac o ran cynorthwyo’r rhai sydd yn colli eu cartrefi. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau i helpu pobl sy’n cael eu bygwth â digartrefedd o ganlyniad i droi allan neu am unrhyw reswm arall, ac mae disgwyl iddynt ymyrryd mor gynnar â phosibl. Mae’n hanfodol fod gwaith yn parhau gydag asiantaethau cymorth a landlordiaid i nodi pobl sydd mewn perygl ar draws pob sector, yn enwedig os oes ganddynt blant.
Mae angen deall yn well sut a pham y mae pobl yn mynd yn ddigartref fel y gellir mynd i’r afael â phroblemau posibl, Lywydd, a darparu cymorth ar y camau cynharaf posibl. Rydym angen i asiantaethau ar draws y sector cyhoeddus weithio’n well gyda’i gilydd, atebion tai effeithiol, a’r gefnogaeth angenrheidiol i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl a gallu cadw eu llety. Mae’r cymorth sydd ei angen yn cynnwys llawer o feysydd yn fy mhortffolio, gan gynnwys cyngor ariannol, diogelwch cymunedol a’r sector rhentu preifat. Pan fo teuluoedd â phlant dan fygythiad o gael eu troi allan, mae’n rhaid gweithio’n agos gyda gwasanaethau cymdeithasol, wrth gwrs, i sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diogelu.
Mae’n rhaid i ni hybu ymwybyddiaeth o wasanaethau a all helpu pobl os ydynt yn mynd i drafferthion. Un o achosion mwyaf cyffredin digartrefedd yw ôl-ddyledion rhent, sydd wedi cael ei grybwyll gan sawl un heddiw. Dyma pam ein bod yn datblygu strategaeth gynghori genedlaethol i roi pobl mewn cysylltiad â chyngor annibynnol pan fo’i angen. Mae’r cyllid a ddarparwn i Shelter Cymru ac i Gyngor ar Bopeth Cymru yn sicrhau y gall pobl gael cyngor arbenigol i’w helpu i gadw eu cartrefi.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Shelter Cymru adroddiad ar gael a chadw tenantiaethau cymdeithasol. Nodai rai diffygion yn y modd y mae sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd er mwyn osgoi achosion o droi allan. Ni ddylai landlordiaid cymdeithasol ddefnyddio troi allan heblaw fel dewis olaf un, a phan fetho pob dewis arall posibl. Fel y dywedais, canlyniad ôl-ddyledion yw troi allan gan amlaf a dylid mynd ati’n weithredol i ddefnyddio gwasanaethau cymorth a chyngor dwys i achub y denantiaeth. Rydym yn gwneud gwaith dilynol ar yr adroddiad hwn a’i argymhellion gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i gyfyngu ar achosion o droi allan ac atal digartrefedd rhag digwydd.
Lywydd, rydym hefyd yn mynd i orfod gweithio hyd yn oed yn galetach i liniaru problemau yn sgil diwygio lles. Mae’r newidiadau diwygio lles a grybwyllodd Jenny, ac a gyflwynwyd hyd yn hyn, eisoes wedi creu pwysau newydd a all arwain at ddigartrefedd. Rwy’n pryderu y bydd y pwysau hwn yn cynyddu ymhellach gyda chyflwyno’r credyd cynhwysol yn raddol a’r cyfyngiadau ychwanegol a osodir ar hawliau budd-dal rhai rhwng 18 a 35 oed. Bydd diwygiadau lles pellach gan Lywodraeth y DU yn cynyddu’r perygl o deuluoedd yn colli eu cartrefi. Bydd y newidiadau hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar deuluoedd sy’n byw ar incwm isel. Mae tystiolaeth annibynnol yn awgrymu y bydd yn gosod hyd yn oed mwy o blant mewn perygl o dlodi a digartrefedd.
Hefyd, rhaid i atal digartrefedd gael ei ymgorffori hyd yn oed yn well mewn gwaith cynllunio a darparu gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai. Bydd y rhaglen Cefnogi Pobl hefyd yn parhau i fod yn ganolog i’n hymrwymiad i helpu grwpiau agored i niwed. Rwy’n edrych ymlaen at weld y rhaglen yn gwneud cyfraniad mwy byth tuag at atal digartrefedd, gan gynnwys disgwyliad y bydd unrhyw un sydd mewn perygl o gael eu troi allan yn cael cynnig cymorth i gadw eu tenantiaeth.
Rydym i gyd yn cydnabod na ellir osgoi troi allan bob amser fodd bynnag, yn enwedig yn y sector rhentu preifat, ac mae angen i ni sicrhau bod pobl yn cael cymorth i ddod o hyd i lety arall cyn gynted ag y bo modd. Nid yw hyn bob amser yn hawdd a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol o ddarparu 20,000 pellach o gartrefi fforddiadwy yn ystod y Llywodraeth hon.
Lywydd, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn, o gwmpas y Nadolig, dylem fod yn ymwybodol iawn o bobl yn colli eu cartrefi—y posibilrwydd y gallent golli eu cartrefi—ac yn enwedig plant. Rwy’n siŵr fod pob Aelod o’r Siambr hon yn ymroddedig iawn i fynd i’r afael â’r mater hwn. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y materion hynny sy’n effeithio ar les teuluoedd a phlant, gan gynnwys cydnerthedd ariannol, drwy gyflogaeth, hybu iechyd meddwl a fframwaith cyfreithiol a pholisi sy’n sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i osgoi’r achosion hyn o droi allan. Byddwn yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw.