Part of the debate – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2016.
Cynnig NDM6188 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016.
2. Yn gresynu bod sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn is yn 2015 nag yn 2006.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth glir â thargedau mesuradwy ac amserlen glir i sicrhau gwelliant yn PISA 2018.