8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: PISA

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:27, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gynnig y cynnig hwn heddiw, ac rwyf am wneud hynny’n ffurfiol ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.

Yr wythnos diwethaf, cafodd Cymru newyddion am ei chanlyniadau yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, neu PISA, fel y cyfeirir ato’n fwy cyffredin, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Cyn cyhoeddi’r canlyniadau hynny, gweithiodd Llywodraeth Cymru yn galed iawn i leihau disgwyliadau o unrhyw gynnydd neu welliant ac wrth gwrs, ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi, rydym i gyd wedi gweld pam. Roedd y canlyniadau hynny, unwaith eto, yn dangos Cymru’n dihoeni yn hanner gwaelod y tabl cynghrair addysg byd-eang ac roeddent yn ailgadarnhau statws gywilyddus Cymru fel y system ysgolion sy’n perfformio waethaf yn y DU—teitl rydym wedi’i ddal byth ers ein set gyntaf o ganlyniadau PISA yn ôl yn 2006.

Ond yr hyn sy’n gwneud y canlyniadau hyn yn fwy diflas na rhai’r blynyddoedd blaenorol mewn gwirionedd yw bod Cymru wedi perfformio’n waeth ar gyfer PISA 2015 nag a wnaethom yn ôl yn 2006 ar bob un mesur—yn waeth mewn llythrennedd, yn waeth mewn mathemateg ac yn waeth mewn gwyddoniaeth. Mae’r canlyniadau’n nodi degawd o dangyflawni a methiant i wneud unrhyw gynnydd, ond nid dyna’r cyfan o bell ffordd. Roedd y canlyniadau hefyd yn dangos i ni fod yna ostyngiad parhaus wedi bod mewn sgiliau gwyddoniaeth ers 2006, yn enwedig ar gyfer y disgyblion sy’n cyflawni ar y lefel uchaf. Barnwyd bod traean o ddisgyblion Cymru yn dangyflawnwyr mewn un neu fwy o bynciau—yr uchaf o blith holl wledydd y DU. Roedd sgoriau darllen Cymru yn gyfartal â rhai Hwngari a Lithwania, a gwelwyd bod disgyblion yn Lloegr dair gwaith yn fwy tebygol o fod yn gyflawnwyr uchel mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg nag yma yng Nghymru.

Er bod rhywfaint o gysur yn y ffaith fod y bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng disgyblion o’r cefndiroedd cyfoethocaf a’r cefndiroedd tlotaf yma yng Nghymru, roedd PISA mewn gwirionedd yn awgrymu bod hyn yn deillio’n bennaf o’r ffaith syml nad yw’r disgyblion mwy breintiedig hynny’n perfformio cystal ag y dylent ei wneud. Mae disgyblion Cymru yn gwneud mwy o ddysgu y tu allan i’r diwrnod ysgol na’u cymheiriaid yn Lloegr ac eto maent yn dal i berfformio’n waeth.

Llu o fethiannau—methiant gan Lywodraethau olynol dan arweiniad Llafur Cymru i wella cyflawniad, methiant gan Weinidogion addysg i wrthdroi pethau, a methiant gan ein Prif Weinidog i ddarparu’r system addysg o’r radd flaenaf yn fyd-eang a addawodd pan ddaeth i’w swydd bron i ddegawd yn ôl. Dyma’r math o system y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu wrth gwrs.

Ond yn anffodus, mae’n amlwg iawn o’r canlyniadau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, nad yw’r Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru a fu gennym yma yng Nghymru wedi bod yn gwneud pethau’n iawn. Am y rheswm hwn byddwn yn pleidleisio o blaid gwelliant Plaid Cymru y prynhawn yma, sy’n credu bod y methiannau’n ganlyniad uniongyrchol 16 mlynedd o bolisïau addysg Llafur annigonol. Er, rhaid i mi ddweud, rwy’n credu bod Plaid Cymru yn rhagrithiol braidd yn ceisio rhoi’r bai i gyd ar y Blaid Lafur, pan oeddent mewn clymblaid gyda’r Blaid Lafur am bedair o’r blynyddoedd hynny mewn gwirionedd yn ystod y degawd diwethaf. Nawr maent yn crio dagrau ffug, ond byddai wedi bod yn well, a dweud y gwir, pe bai Plaid Cymru wedi gwneud ychydig mwy o wahaniaeth o gwmpas bwrdd y Cabinet pan oedd ganddynt Ddirprwy Brif Weinidog a llawer o Weinidogion Cabinet eraill. Felly, pam na chymerwch beth o’r bai heddiw pan fyddwch yn sefyll i wneud eich araith? Bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud. Mae angen i chi gydnabod eich rôl yn y methiannau hynny ac ymddiheuro amdani.

Mae canlyniadau PISA gwael blaenorol, wrth gwrs, wedi arwain at lawer o siarad caled. Rydym wedi clywed y cyfan yn y Siambr hon: rydym wedi clywed addewidion i wneud yn well gan y Prif Weinidog ac Ysgrifenyddion Cabinet blaenorol, ac eto, er gwaethaf hyn, nid yw’r canlyniadau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt yn gwneud dim hyd yn hyn, rwy’n ofni, i roi unrhyw hyder i fy mhlaid y byddwn yn gweld gwelliannau’n fuan. Yn lle hynny, dywedwyd wrthym fod angen i Gymru gadw at y llwybr, a bod angen i ni roi ychydig mwy o amser i ddiwygiadau ymwreiddio. Ond y broblem yw bod Llywodraeth Cymru wedi cael degawd ers canlyniadau tebyg yn ôl yn 2006 ac eto rydym wedi gweld methiant ar ôl methiant i gyflawni’r newid mawr yn y canlyniadau rydym i gyd am ei weld.

Nawr yr hyn na all llawer o sylwebyddion ei ddeall o gwbl yw sut y mae gwledydd fel Gwlad Pwyl wedi gallu troi eu systemau addysg o gwmpas mewn llai na degawd, ond ei bod yn ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu gwneud hynny. Mae Gwlad Pwyl, wrth gwrs, yn wlad a gafodd ganlyniadau PISA tebyg yn ôl yn 2000 i’n rhai ni yn 2006. Eto i gyd, llwyddodd i wella ei chanlyniadau erbyn 2009 i ddod yn un o’r gwledydd ar y brig. Wrth gwrs, nid yn unig eu bod wedi llwyddo i gyrraedd yno yn 2009, ond maent wedi cynnal y perfformiad hwnnw byth ers hynny. Maent wedi llwyddo i wneud hynny mewn gwlad sy’n fwy—llawer mwy—na Chymru a lle y gellid dadlau bod gwneud newidiadau yn llawer anos ac wrth gwrs, mae ganddynt genedl ôl-ddiwydiannol debyg i ymdopi â hi.

Ond wrth gwrs, tra oedd Gwlad Pwyl yn gwneud cynnydd cyflym yn ystod degawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain, roedd Cymru’n chwilio mewn mannau eraill am ysbrydoliaeth o dan y Gweinidog addysg blaenorol, Jane Davidson—wrth gwrs, roedd hi’n edrych tuag at Ciwba. Ni allech greu’r fath stori, allech chi? Ond dyna ble roedd hi’n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer dyfodol y system addysg yng Nghymru. Nawr, yn ffodus, rydym wedi symud ymlaen ers G.I. Jane ac yn lle hynny, rydym wedi cael Gweinidogion eraill.

Cafodd y rownd bresennol o ddiwygiadau i’n cwricwlwm eu hysbrydoli i raddau helaeth gan genedl sydd ychydig yn agosach i gartref wrth gwrs—yr Alban. Mae chwe blynedd bellach ers i’r Alban gyflwyno ei chwricwlwm ysgol newydd, ac mae Cymru bellach yn ceisio efelychu llawer ohono. Ond gadewch i ni ystyried canlyniadau eu diwygiadau am eiliad. Yn y canlyniadau PISA yr wythnos diwethaf, cofnododd yr Alban ei chanlyniadau gwaethaf erioed—y canlyniadau gwaethaf mewn llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae ei safle fel cenedl wedi bod yn cwympo fel carreg—o safle 11 ar restr PISA ar gyfer darllen yn 2006 i safle 23 yr wythnos diwethaf, o safle 11 i safle 24 mewn mathemateg, ac o safle 10 i safle 19 mewn gwyddoniaeth. Mae cyfran plant yr Alban yr ystyrir eu bod yn perfformio’n is na’r safon mewn gwyddoniaeth a darllen wedi saethu i fyny ers y profion PISA diwethaf yn 2012, gyda’r sgoriau ar gyfer bechgyn a merched yn cwympo’n sylweddol, ac eithrio, ymhlith merched, ar gyfer mathemateg. Felly, nid yw’n syndod fod Ysgrifennydd Addysg yr Alban, John Swinney, wedi awgrymu yno fod angen diwygio’r system yn radical—ei eiriau ef, nid fy rhai i.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet ac eraill yn ddiau yn ceisio awgrymu bod diwygiadau Cymru’n wahanol iawn i rai’r Alban. Rwy’n derbyn bod yna rai gwahaniaethau. Ond ni waeth pwy rydym yn ceisio ei dwyllo, ni waeth pwy rydym yn ceisio tawelu eu meddwl, rydym yn gwybod bod ein diwygiadau’n debyg ac mai’r un un yw awdur y diwygiadau hynny.

Nid wyf yn dadlau bod angen i ni roi’r gorau i ailffurfio ein cwricwlwm yma yng Nghymru neu na ddylem barhau gyda rhai o’r mesurau a’r camau gweithredu eraill a gymerwyd yn y gorffennol mewn perthynas â’r fframwaith llythrennedd a rhifedd. Nid oes angen i ni roi’r gorau i’r rheini. Ond yr hyn sy’n amlwg o’r Alban yw nad yw’r pethau hyn ar eu pen eu hunain yn mynd i gyflawni’r math o newid yn y safleoedd PISA sydd angen eu cael yma yng Nghymru. Ni allwn lwyr anwybyddu’r ffeithiau hyn a pharhau fel arfer. Yn ein barn ni, mae angen cyfnod o fyfyrio a gofyn yn onest ai diwygiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru yw’r cyfrwng gorau i symud Cymru ymlaen mewn gwirionedd, yn enwedig o ystyried profiad yr Alban. Rydym yn credu, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn bryd gwthio’r botwm saib ar y diwygiadau i’r cwricwlwm a chymryd amser i ystyried ble rydym.

Rwy’n cydnabod bod yna lawer iawn o ewyllys da a chefnogaeth i ddiwygio’r cwricwlwm a’r math o ddull rydym yn ei weithredu yma yng Nghymru, ond rydym i gyd—pob un ohonom yn y Siambr hon a phob un ohonom sydd â rhan yn ein haddysg yma yng Nghymru—angen bod yn hyderus fod y diwygiadau rydym yn eu ceisio, ac rydym yn anelu atynt, yn mynd i wneud y math o welliannau y mae ein hysgolion a’n system addysg angen eu gweld. Rwy’n ofni bod y dystiolaeth o’r Alban yn awgrymu nad yw diwygio ar ei ben ei hun, hyd yn oed ar y cyd â rhai o’r camau gweithredu eraill sy’n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru, yn mynd i fod yn ddigon.

Nawr, rwyf wedi gweld gwelliant y Llywodraeth heddiw. Mae’n gofyn i ni nodi, a dyfynnaf,

‘sylwadau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dilyn ei ymweliad i adolygu’r system addysg yng Nghymru, sef bod nifer o bethau wedi’u rhoi ar waith bellach sy’n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol.’

Ond rwy’n gofyn y cwestiwn hwn: sut ar y ddaear y gall Aelodau’r Cynulliad nodi sylwadau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd pan nad ydynt wedi cael eu rhannu gyda ni? Rydym eto i weld adroddiadau ysgrifenedig. Rydym eto i weld unrhyw gasgliadau. Rydym eto i weld unrhyw ganfyddiadau neu argymhellion sydd wedi dod i’r amlwg o’r adolygiad ciplun hwnnw. Felly, mae hi braidd yn gynamserol i ofyn i ni nodi’r pethau hynny os nad ydym wedi llwyddo i weld unrhyw un o’r pethau hynny. Dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliant Llywodraeth Cymru heddiw.

Felly, yn lle hynny—i fod yn glir—yr hyn rydym yn galw amdano gan Lywodraeth Cymru heddiw yw strategaeth glir gyda thargedau mesuradwy a fydd yn sefyll ochr yn ochr â’r gwaith arall hwn, sydd eisoes yn mynd rhagddo, i wrthdroi’r perfformiad hwn—ac nid erbyn 2021; rydym am weld gwelliannau erbyn y set nesaf o ganlyniadau PISA yn 2018. Os oedd Gwlad Pwyl yn gallu ei wneud, yna nid wyf yn gweld pam na all Cymru ei wneud hefyd. Rydym am weld gwelliannau mewn mwy nag un pwnc. Rydym am weld gwelliant ym mhob un o’r tri phwnc PISA—gwyddoniaeth, mathemateg a darllen. Dyna y mae ein pobl ifanc, dyna y mae ein plant, yn ei haeddu: dim llai na’r math hwnnw o welliant. Mae arnom angen targedau clir iawn nad ydynt, yn wahanol i dargedau blaenorol, yn cael eu diddymu, ond targedau y glynir atynt. Gwelsom Leighton Andrews yn gosod targed clir y dylem fod yn yr 20 uchaf erbyn 2016. Nid ydym yno. Felly, rhoddwyd y gorau i’r targed hyd yn oed cyn i ni gael cyfle i wneud Leighton yn atebol i’r targed hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, nid yw yma. Cafodd y targed ei ddiddymu gan ei olynydd, Huw Lewis, a osododd darged arall eto yn ei le: y tro hwn i sgorio dros 500 yn y prawf PISA, ond nid tan 2021, yn gyfleus iawn, ar ôl iddo ymddiswyddo o’r Cynulliad Cenedlaethol.

Felly, ni allwn barhau i drosglwyddo hyn ymlaen i bobl eraill ymdopi ag ef mewn Cynulliadau yn y dyfodol. Mae angen i ni fod yn atebol yma yn y Cynulliad hwn i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud cynnydd erbyn 2018, ac ie, eto yn 2021. Mae angen cyflwyno polisïau sy’n mynd i ganiatáu i ysgolion llwyddiannus ffynnu a thyfu—yr ysgolion sy’n boblogaidd ac sy’n mynd i weithio mewn partneriaeth â’r proffesiynau, y proffesiynau addysgu a’r holl randdeiliaid eraill yn ein hysgolion—i gyflawni’r newid mawr sydd angen i ni ei weld o ran PISA. Nid ydym yn mynd i wneud hynny oni bai bod gennym strategaeth gydag amserlen a thargedau clir.

Felly, gadewch i ni fod yn glir—ni all ein perfformiad gwael barhau. Bydd yn arwain at ganlyniadau os nad ydym yn mynd i’r afael ag ef, yn enwedig i’n heconomi ac i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn credu bod angen i ni fod yn uchelgeisiol ac yn feiddgar gyda’n hatebion, gan edrych ar y math o ragoriaeth a’r math o gyflawniad a’r tir sydd wedi’i ennill mewn mannau eraill mewn llefydd fel Gwlad Pwyl a gwledydd eraill o amgylch y byd. Rydym yn dibynnu arnoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i weithredu, ac am y rheswm hwn rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw.