Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i symud neu gynnig y gwelliannau yn swyddogol? Mae PISA, wrth gwrs, yn anffodus, wedi ein hatgoffa ni unwaith eto bod Cymru wedi perfformio’r gwaethaf o wledydd y Deyrnas Unedig, bod sgoriau darllen, gwyddoniaeth a mathemateg yn waeth nag oedden nhw yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl, a bod Cymru heddiw ymhellach y tu ôl i gyfartaledd y Deyrnas Unedig yn y tri maes yna o’i gymharu â 2006.
Ac mae hynny, fel yr ydym ni’n ei ddweud yn y gwelliant, neu un o’r gwelliannau, yn sen ar record Llafur—olyniaeth ddi-dor ers datganoli o Weinidog addysg Llafur ar ôl Gweinidog addysg Llafur. Ac, wrth gwrs, 10 mlynedd ar ôl y methiant cyntaf yna, rŷm ni’n dal, wrth gwrs, yn aros i’r diwygiadau angenrheidiol gael eu gwneud. Ac mae’n rhaid imi ddweud, mae rhai o’r galwadau sydd wedi bod yn ddiweddar am gymryd pwerau yn ôl i San Steffan, fel rhyw fath o ddad-ddatganoli pwerau dros addysg, yn methu’r pwynt yn llwyr, wrth gwrs. Oherwydd, os yw tîm pêl-droed ar waelod y gynghrair, ni fyddech chi yn symud stadiwm na gofyn am gael chwarae mewn cynghrair arall. Yr hyn yr ŷch chi’n ei wneud, wrth gwrs, yw sacio’r rheolwr a newid y chwaraewyr, ac mae rheolwyr fel arfer—[Torri ar draws.] Na, nid wyf i ddim; mae gen i lot i’w gael i mewn yn y pum munud yma. Ond mae rheolwyr fel arfer mewn sefyllfa o’r fath yn cymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa, rhywbeth y mae’r Prif Weinidog, wrth gwrs, wedi gwrthod ei wneud. Ydy, mae wedi dweud bod y canlyniadau yn siomedig. Ydy, mae wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd y canlyniadau’n well y tro nesaf. Ond, wrth gwrs, dyna yn union a ddywedodd e y tro diwethaf. Ac rydw i wedi atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet, y tro diwethaf inni gael y canlyniadau siomedig yma, mi ofynnodd hi i’r Prif Weinidog, yn 2012, a oedd yn cywilyddio am y canlyniadau. Wel, oni ddylai fe fod yn cywilyddio hyd yn oed yn fwy y tro yma oherwydd y methiant unwaith eto?
Nawr, oes, mae yna ddiwygiadau mwy sylfaenol yn yr arfaeth. Mae’n resyn ei bod hi wedi cymryd 10 mlynedd inni gyrraedd fan hyn. Rŷm ni’n gwybod y cymeriff hi bedair i bum mlynedd arall cyn i’r diwygiadau hynny gael eu cwblhau, heb sôn, wrth gwrs, wedyn am weld yr effaith y byddai rhywun yn gobeithio ei gweld o safbwynt canlyniadau PISA. Ac mae rhywun yn teimlo, mewn sefyllfa o’r fath, bod hwn yn rhyw fath o dafliad olaf y dis fan hyn. Felly, mae’n allweddol ein bod ni yn sicrhau bod y newid iawn yn digwydd, ac nad yw o reidrwydd yn newid cyflym, rwy’n derbyn hynny. Ond, yn amlwg, mae’n rhaid inni fod yn hyderus ein bod ni ar y llwybr cywir. Ac mae’n rhaid iddo fe fod yn newid sydd wedi’i berchnogi gan y sector os ydyw am lwyddo. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth rwyf eisoes wedi ei godi ar nifer o achlysuron gyda’r Ysgrifennydd yng nghyd-destun y diwygiadau yma, felly wnaf i ddim ailadrodd hynny yn fan hyn.
Ond, fel yr ŷm ni wedi clywed, mae yna fodd cymryd rhywfaint o obaith gan wledydd eraill ac edrych ar record rhywle fel Gweriniaeth Iwerddon, wrth gwrs, sydd wedi perfformio yn gadarnhaol iawn y tro yma. Mae Estonia hefyd yn wlad arall yr oeddwn i’n darllen amdani yr wythnos yma sydd wedi troi perfformiadau rownd. Nid oes yn rhaid efelychu Singapôr a Tsieina a symud i ddiwylliant o weithio oriau afresymol o faith. Mae’r Ffindir ag un o’r lefelau oriau astudio isaf yn y byd, yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol, ac eto yn perfformio, wrth gwrs, yn dda. Ac nid cyllid, o reidrwydd, yw’r ateb chwaith. Mae yna wledydd sy’n gwario mwy ar addysg ac yn perfformio’n waeth, ac mae yna wledydd sy’n gwario llai ac yn perfformio’n well. Un wers, rwy’n meddwl, yr wyf i’n ei chymryd o gyd-destun Estonia—ac mae’n ddiddorol nodi bod athrawon yno fel arfer â gradd Feistr, ac wrth gwrs mae Plaid Cymru wedi dweud yn gyson, os ydym ni eisiau’r system addysg orau, mae’n rhaid inni gael yr addysgwyr gorau, ac rŷm ni wedi, yn ein maniffesto, ac ers hynny, wrth gwrs, esbonio sut rŷm ni am wneud mwy i ddenu’r bobl orau i ddysgu a sicrhau’r datblygiad proffesiynol parhaus yna i addysgwyr er mwyn creu’r diwylliant o wella parhaus. Rŷm ni’n sôn, wrth gwrs, am statws proffesiwn athrawon, gwella ansawdd yr hyfforddi, rhoi mwy o ryddid a chyfrifoldeb i athrawon wrth benderfynu beth y maen nhw yn ei ddysgu. Buom ni’n sôn am greu premiwm i bob athro hefyd a fyddai â gradd Feistr mewn ymarfer addysgu neu lefel gyfatebol o sgiliau. A byddai’r premiwm athrawon yna yn gymorth i ddenu a chadw’r mwyaf talentog yn y proffesiwn dysgu a hefyd gadw athrawon da yn yr ystafell ddosbarth, oherwydd rŷm ni’n colli gormod o’r rheini yn y sefyllfa sydd ohoni.