8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: PISA

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:39, 14 Rhagfyr 2016

Nawr, maen nhw’n dweud bod 30 pwynt o safbwynt sgoriau PISA yn cyfateb i flwyddyn o addysg. Os ydy hynny’n wir, wrth gwrs, ac nid wyf yn amau ei fod e, mae Cymru bellach flwyddyn y tu ôl i’n cyrhaeddiad ni yn 2006 o safbwynt gwyddoniaeth. Felly, ar y mesur yna, mae Cymru wedi mynd yn ôl blwyddyn mewn 10 mlynedd, a dyna, yn anffodus, yw ‘legacy’ addysg Llafur Cymru.