Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Iawn. Rwy’n dod at hynny. Y syniad o’r farchnad—. Er enghraifft—. Rhoddaf enghraifft i chi ynglŷn â chyrff dyfarnu. Mae gennych nifer o gyrff dyfarnu i gyd yn cystadlu am fusnes. Beth yw’r peth naturiol i’w wneud? Gwneud pasio’n haws. Ac yna, pan fyddwch yn eistedd mewn ystafell ddosbarth gydag athrawon eraill, byddwch yn dewis y bwrdd lle rydych yn fwyaf tebygol o gael llwyddiant. Dyna’r broblem gyda’r farchnad. [Torri ar draws.] Nid wyf yn mynd i ildio rhagor yn awr.
Yr hyn yr hoffwn ei weld yw comisiwn ar gyfer—[Torri ar draws.]