Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Part of QNR – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi £1.6 miliwn mewn gwaith rheoli perygl llifogydd yn Arfon. Mae hyn yn cynnwys gwaith ym Montnewydd a chynllun Tal-y-bont a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae’r cynllun yn Nhal-y-bont yn lleihau’r perygl i’r pentref ac i’r A55. Mater i’r awdurdod lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru yw cyflwyno cynlluniau ar gyfer y dyfodol.