Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 10 Ionawr 2017.
Wel, rwyf i wedi cyflwyno fy mlaenoriaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn y rhaglen lywodraethu newydd, 'Symud Cymru Ymlaen', a lansiwyd fis Medi diwethaf. Rwyf i eisiau i bob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd ac rwyf i wedi cydnabod pwysigrwydd pwyslais ar y blynyddoedd cynnar.