<p>Plant a Phobl Ifanc yn Nhorfaen</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:36, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n sicr yn wir fod y rhan fwyaf o ysgolion wedi elwa o dan Her Ysgolion Cymru. Nid oes angen y cymorth hwnnw arnynt mwyach; maen nhw’n gallu sefyll ar eu traed eu hunain erbyn hyn. Ceir rhai ysgolion nad ydynt yn y sefyllfa honno. Gallaf roi’r sicrwydd i’m cyfaill a’m cydweithiwr ein bod ni’n ystyried sut y gallwn ni helpu’r ysgolion hynny nad ydynt wedi gwneud cystal, i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl, ac i wneud yn siŵr bod yr arfer da sy'n cael ei ddysgu mewn ysgolion Her Ysgolion Cymru eraill yn trosglwyddo i’r ysgolion hynny nad ydynt wedi gwneud cystal ag y byddem yn dymuno, er mwyn iddyn nhw allu llwyddo yn y dyfodol.