Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 10 Ionawr 2017.
Wel, mae’r cynllun presennol yn dod i ben yn naturiol. Mae'n iawn i ddweud nad yw’r nifer sydd wedi manteisio ar y cynllun wedi bod mor sylweddol ag y bwriadwyd yn wreiddiol. Ond, serch hynny, mae'r Gweinidog wedi bod mewn trafodaethau â'r cwmnïau bysiau a choetsys er mwyn iddyn nhw gynnig cynllun arall priodol—erbyn mis Ebrill eleni, rwy’n credu. Felly, nid yw'n wir fod y cynllun yn dod i ben ac na fydd unrhyw beth yn dod yn ei le; rydym ni’n chwilio am ffyrdd o gael cynllun arall a'i wneud yn fwy effeithiol o ran faint sy’n ei ddefnyddio.