Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 10 Ionawr 2017.
Mae’r Fenni, rwy'n siŵr, yn uchel ei pharch fel gŵyl fwyd, fel y bydd ef yn gwybod. Ond mae'n iawn, gan fod y digwyddiadau yn arddangos cynnyrch o Gymru. Roedd y neuadd fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru, ar un adeg, yn rhy fach. Cafodd ei hailadeiladu ac mae bellach yn rhy fach eto yn ôl pob tebyg. Mae hynny’n arwydd o lwyddiant diwydiant bwyd a diod Cymru o ran ei arallgyfeirio, ei amrywiad, a'r ffaith fod cynifer o'r busnesau a sefydlwyd yn ystod y degawd diwethaf yn dal i fod yno ac yn dal i allu mynd i mewn i'r archfarchnadoedd. Mae nifer o'r archfarchnadoedd wedi newid eu meddyliau hefyd. Er y bu’n well ganddyn nhw brynu gan gyflenwyr mawr yn y gorffennol, maen nhw wedi datblygu mwy o ddiddordeb mewn cyflenwyr llai ac mewn cynnyrch lleol, sy'n rhywbeth yr wyf i’n ei groesawu'n fawr. Ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei osgoi yn fwy na dim arall yw i’n marchnad fwyaf, sef Ewrop, naill ai gael ei chau i ni neu i’r telerau masnachu â’r farchnad honno fod yn llai manteisiol i ni. Ni fydd yr Unol Daleithiau fyth yn cymryd lle’r farchnad Ewropeaidd. Mae'r Unol Daleithiau yn warchodol iawn pan ddaw i amaethyddiaeth. Felly, mae cadw gallu ffermwyr Cymru i werthu ar delerau presennol y farchnad Ewropeaidd yn gwbl hanfodol i ddyfodol ffermio yng Nghymru.