Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 10 Ionawr 2017.
A gaf i alw am ddau ddatganiad Ysgrifennydd Cabinet—y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch dyfodol y diwydiant coed yng Nghymru? Bydd yr Aelodau wedi sylwi bod rhai pryderon wedi’u codi gan Clifford Jones Timber, sefydliad sydd wedi'i leoli yn Rhuthun yn fy etholaeth i, am fethiant tir coedwigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau trefn blannu ehangach, cynnydd yn y drefn blannu, er mwyn sicrhau cnwd digonol ar gyfer y dyfodol. Rydych yn gwybod bod y busnes penodol hwnnw yn cyflogi 80 o bobl, ac yn wir, ceir miloedd lawer o swyddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu coed yng Nghymru sy'n dibynnu ar gynhyrchu pren. Tybed, Weinidog, a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, ddim ond ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud er mwyn manteisio i’r eithaf ar allbwn y diwydiant hwnnw, a'i gyfraniad economaidd i Gymru yn y dyfodol?
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ynghylch y cynllun, Cyflymu Cymru, a'r ffordd y caiff ei farchnata yma yng Nghymru? Rwyf wedi derbyn nifer o gyfathrebiadau gan etholwyr sy’n bryderus iawn ynghylch y wybodaeth anghywir sy'n ymddangos ar wefan Cyflymu Cymru am argaeledd band eang cyflym iawn, yn eu hardaloedd penodol. A hyd yn oed yn fwy o achos pryder yw adborth uniongyrchol gan BT Openreach i etholwyr y mae’n ymddangos ei fod yn awgrymu, oherwydd bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cymryd y cyfrifoldeb dros farchnata Cyflymu Cymru, fod angen iddyn nhw nawr ailgofrestru eu diddordeb mewn cael mynediad ato. Dyma’r adborth a roddwyd. Gallaf weld y Gweinidog yn ysgwyd ei phen, ond dyna yw’r adborth a gawson nhw—mae gennyf gopi o'r e-bost yn y fan hyn. Felly, mae’n amlwg bod rhywfaint o gyfathrebu digyswllt yno y mae angen rhoi sylw iddo, ac rwyf wir o’r farn y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad pellach gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth er mwyn rhoi sylw i hynny.