Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 10 Ionawr 2017.
Yn gyntaf oll, a gaf i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Llywodraeth am wrando, i ryw raddau, beth bynnag, ar fy etholwyr a rhai Aelodau eraill o’r Cynulliad ynghylch y mater o ryddhad ardrethi busnes? Yn amlwg, dyw hi ddim cyn belled ag y byddem ni wedi mynd, ond fe’i croesewir, cyn belled ag y mae'n mynd. Fodd bynnag, rwyf o’r farn fod arnom angen datganiad brys ar sut y bydd y £10 miliwn ychwanegol hyn yn cael ei wario. Rydym yn siarad am fusnesau cymwys sydd eisoes yn bodoli yn cael mwy o arian neu yr un faint o arian am gyfnod hwy. A yw busnesau newydd yn mynd i fod yn gymwys? A fydd meini prawf newydd? Os yw'n mynd i gael ei weithredu drwy awdurdodau lleol, sut y bydd angen gwneud y ceisiadau hynny? A fyddwch yn gosod cyfyngiadau amser ar awdurdodau lleol, er enghraifft, ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn ymdrin â cheisiadau mewn modd amserol? A fydd unrhyw faint o'r £10 miliwn hynny yn cael ei frigdorri i dalu am y gwaith gweinyddol ychwanegol dan sylw? Rwyf o’r farn fod y manylyn hwn bellach yn fater o frys os ydych yn dymuno tawelu meddwl busnesau bach yn y modd yr wyf yn siŵr eich bod yn bwriadu ei wneud.
Yn yr hydref—ail ddatganiad yr wyf i’n chwilio amdano yma—cadarnhaodd y Llywodraeth ei hymrwymiad i'r rhaglen Esgyn a ‘Cymunedau am Waith’. Ym mis Rhagfyr, gwahoddodd Mark Isherwood Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pam yr oedd y rhaglenni penodol hyn wedi eu diogelu pan oedd y canlyniadau a ragwelwyd yn cymharu'n anffafriol o ran gwerth am arian a dechrau mewn swydd, mewn gwirionedd, yn ôl y diffiniad, â Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd ymdrechion i gael data cyfamserol wedi bod yn aflwyddiannus yr adeg honno ac ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet i edrych arnynt yn y flwyddyn newydd. Mae hynny'n awgrymu i mi nad oedd wedi edrych arnynt yn iawn cyn cytuno, mewn gwirionedd, i barhau â'r rhaglenni, sydd, wrth gwrs, yn costio degau o filiynau o bunnoedd. Gan fod y Cynulliad, fel Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr mai’r rhaglenni ymyriadau hyn yw’r rhaglenni gorau, ac rwyf o’r farn fod angen inni weld y ffigurau hynny a thystiolaeth o ddiwydrwydd dyladwy cyn gynted ag y bo modd erbyn hyn. Mae angen i ni dawelu meddwl ein hetholwyr ein bod i gyd yn gwneud y peth iawn yma, ac nad dim ond rhyw weithgarwch sy’n cuddio diffyg effeithiolrwydd ydyw. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cymunedau gydag atodiadau yn cynnwys data cyfamserol ar y ffigurau perthnasol yno.
Yn olaf, rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith ei bod yn ddyddiau cynnar i hwn, ond dydw i ddim eisiau iddo ddiflannu o'n golwg: a allem ni gael datganiad yn weddol fuan ar y cynnydd ynghylch newidiadau sy'n cael eu hystyried i'r fframwaith rheoleiddio, a’r fframwaith cynllunio, a dweud y gwir, a godwyd gan ACau o fy rhanbarth i o ganlyniad i'r tanau sglodion pren a welsom yn ystod yr haf ac yn ddiweddarach? Fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’n edrych ar y newidiadau, ac rwy'n credu y byddai'n galonogol inni i gyd weld pa gynnydd sydd wedi’i wneud ynglŷn â hynny. Diolch.