Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 10 Ionawr 2017.
Hoffwn godi dau fater. Yn gyntaf, cyn y Nadolig, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd i mi yma yn y Siambr, gan ddweud y byddai'n ysgrifennu ataf ynghylch cwestiwn a godais ar gynlluniau datblygu lleol. Nid wyf wedi derbyn nodyn ar hynny hyd yma, ac felly, byddwn yn ddiolchgar am ymateb—yn ddiolchgar iawn am hynny.
Yn ail, byddwn yn gofyn am ddatganiad. Rwyf wedi tynnu sylw o'r blaen at lwyddiant ralio cam coedwigoedd yng Nghymru, sy'n werth £15 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Nawr, fe gawsom ni ymateb calonogol iawn gan Lywodraeth Cymru yn ôl ym mis Gorffennaf, a oedd yn awgrymu bod Adnoddau Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Chwaraeon Modur wedi dod i gytundeb ar daliadau ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw ffyrdd, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am hynny. Mae'n ymddangos bellach fod camau’r canolbarth ar gyfer pencampwriaeth rali Prydain wedi eu canslo oherwydd ansicrwydd ynghylch y taliadau mewn ralïau yng nghoedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr, rwyf o’r farn fod hyn yn ymwneud â gorfod codi TAW. Canlyniad uniongyrchol hyn, wrth gwrs, yw y bydd y canslo yn cael effaith ganlyniadol enfawr ar economi’r canolbarth ac y bydd yr ardal leol yn colli miloedd ar filoedd o bunnoedd. Byddwch yn gwerthfawrogi’r ffaith fod ralio a chwaraeon moduro yn dod â llawer o ymwelwyr ac incwm hanfodol i’r canolbarth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Ysgrifennydd Cabinet priodol ymchwilio i hyn a chyflwyno datganiad i'r Siambr.