Part of QNR – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2017.
Nid oes dim cytundeb ffurfiol, ond rydym wedi cael sicrhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y byddan nhw’n parchu’r setliad datganoli ac yn cydweithio’n agos â’r gweinyddiaethau datganoledig. Bydd hyn yn allweddol er mwyn sicrhau bod trefniadau effeithiol yn cael eu rhoi ar waith yn y Deyrnas Unedig i baratoi at adael yr Undeb Ewropeaidd.