1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:33, 17 Ionawr 2017

Mae tipyn o sôn wedi bod bod posibilrwydd y bydd y lwfans gweini, sef yr ‘attendance allowance’, yn cael ei ddatganoli i Gymru o San Steffan. Mae tua 100,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn y budd-dal yma, ar gost o tua £400 miliwn y flwyddyn. Os bydd y budd-daliadau yma’n cael eu datganoli i Gymru, mi fydd yn rhaid penderfynu wedyn beth fydd rôl yr awdurdodau lleol. Ac mae Plaid Cymru bob tro, wrth gwrs, yn croesawu cael mwy o bwerau yng Nghymru er budd pobl Cymru, ond mae yna bryder mai dull o arbed arian ydy’r symudiad yma yn y pen draw. Sut ydych chi yn medru sicrhau na fydd pobl anabl hŷn yng Nghymru yn dioddef petai’r newid yma yn digwydd?