Part of the debate – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 17 Ionawr 2017.
Brif Weinidog, ym mis Mawrth y llynedd, yn rhan o raglen Getting Ahead 2, rhoddwyd £10 miliwn i Anabledd Dysgu Cymru dros bum mlynedd i weddnewid bywydau dros 1,000 o bobl ifanc 16 i 25 oed sydd ag anableddau dysgu neu anawsterau dysgu, ac mae hynny trwy ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl sy'n para rhwng chwech a 12 mis. Beth mae'r ymrwymiad hwn yn ei ddangos am benderfyniad Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl ag anableddau yng Nghymru, a sut mae hyn yn ymarferol yn helpu i newid bywydau pobl?