Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 17 Ionawr 2017.
Brif Weinidog, fel rydw i’n siŵr eich bod yn ymwybodol, mae nifer o ffermwyr yn fy etholaeth i yn poeni’n enfawr am y posibilrwydd o gyflwyno parthau perygl nitradau, sy’n mynd i gael effaith aruthrol ar eu busnesau ac ar yr economi wledig yn gyffredinol. Mae ymgynghoriad eich Llywodraeth chi nawr wedi dod i ben, felly a allwch chi ddweud wrthym ni pryd y byddwch chi’n gwneud penderfyniad ar y mater hwn? Ac, yn y cyfamser, a allaf i erfyn arnoch chi i edrych ar y mater yma unwaith eto ac i ystyried cyflwyno mesurau gwirfoddol i wella ansawdd ein dŵr, oherwydd dyna’r ffordd i gefnogi ein ffermwyr, drwy weithio gyda nhw ac nid cyflwyno rheoliadau beichus?