Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 17 Ionawr 2017.
Wel, beth wnewch chi nawr, Brif Weinidog, i amddiffyn ffermwyr yn sir Benfro a thrwy Gymru gyfan nawr bod Prif Weinidog San Steffan, Theresa May, wedi penderfynu ein bod ni mas o’r farchnad sengl, bod yna ‘tariffs’ o dan reolau'r WTO ar gynnyrch o Gymru, bod yna farchnad ‘free trade’ gyda Seland Newydd, lle mae cig oen yn dod i mewn a thanbrisio cig oen da a chynnyrch Cymru? Beth wnewch chi nawr fel Llywodraeth i amddiffyn buddiannau Cymru yn erbyn penderfyniad San Steffan a’r Torïaid i wneud ffermwyr Cymru yn fwy tlawd ac yn llai abl i gystadlu yn y byd?