Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 17 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Gwyddom yn iawn y problemau y mae busnesau mewn rhai rhannau o Gymru yn eu hwynebu gyda'r cynnydd enfawr i ardrethi busnes fis Ebrill eleni. Mae hyn yn arbennig o anodd i fusnesau mwy newydd. Er fy mod i’n croesawu'r ymrwymiad o gymorth ychwanegol yn y gyllideb, ceir diffyg eglurder o hyd ynghylch sut y mae'r arian hwnnw'n mynd i gael ei ddosbarthu, ac mae rhai busnesau wedi dweud wrthyf eu bod yn nhir neb, yn enwedig y rhai y mae angen iddynt lofnodi prydlesi mwy hirdymor. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion llawn y pecyn cyllid newydd sydd ar gael i fusnesau a sut y bydd busnesau yn gallu gwneud cais amdano?