6. 4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 17 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:48, 17 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Yn union. Mae Mark Reckless, rwy'n credu, yn llygad ei le. Maen nhw’n dweud wrth bob cyfreithwyr am beidio byth â gofyn cwestiwn oni bai eu bod yn gwybod yr ateb, wrth groesholi, ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir yn yr achos hwn.

Felly, dim ond i gloi fy sylwadau heddiw, rydym ar y cyfan yn croesawu'r darpariaethau sydd yn y Bil, ac eithrio’r un yna, a byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn â chalon drom iawn heddiw. Nid dyma ddiwedd y stori. Byddwn yn ôl unwaith eto, rwy'n siŵr, i drafod y materion hyn ymhellach ac i arwain stori datganoli ymhellach yn ei blaen.