Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 17 Ionawr 2017.
Yn hollol, ac, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, efallai y byddai’n cofio, pan oedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol, mai ei Lywodraeth ef a gyflwynodd gomisiwn Silk ac mai comisiwn Silk a aeth â’r ddadl yn ei blaen, nid refferendwm 2011. Comisiwn Silk a luniodd yr adroddiad yn dweud y dylai fod gan y lle hwn bwerau codi trethi. Roedd hwnnw'n benderfyniad yr oedd ef yn rhan o’i baratoi pan oedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol.
Ers hynny, mae pethau wedi symud ymlaen. Anwybyddodd yr union Lywodraeth honno refferendwm ym Manceinion i greu maer. Mae'r un Llywodraeth honno wedi gorfodi pwerau plismona ar rannau o Loegr heb refferendwm. Rwy’n credu bod y ddadl y dylai fod atebolrwydd democrataidd am benderfyniadau a wneir yn un gymhellol. Wedi'r cyfan, pam y dylai Cyngor Sir Caerfyrddin allu codi refeniw a threthi ac nid Cynulliad Cenedlaethol Cymru? Felly, nid yw'r ddadl yr wyf yn meddwl ei fod yn ei gwneud yn un drylwyr wrth adlewyrchu’n iawn ar y cyd-destun. Ond mae'n rhoi rhywfaint o gysur iddo, felly mae'n rhaid bod hynny’n ddigon da.
Rwy’n cofio geiriau Theresa May bod ei phlaid wedi dod yn 'blaid gas', ag obsesiwn ag Ewrop a gwrth-ddatganoli. Yng ngoleuni’r Bil Cymru hwn, mae’n ymddangos bod yr asesiad hwnnw braidd yn rhagweledol. Nid yw hwn yn setliad sefydlog a pharhaol. Mae’r fersiwn o'r model cadw pwerau yn gynhenid ansefydlog a mater o amser ydyw cyn y bydd barnwyr, unwaith eto, yn penderfynu ble mae’r pŵer, sy'n un o'r rhesymau pam y daeth y Bil hwn i fyny yn y lle cyntaf, a bydd yn methu ei brawf ei hun.
Ni chefais fy argyhoeddi gan y ddadl o ddewrder moesol a gyflwynodd Neil Hamilton, sef ei fod yn gallu datblygu’r dadleuon hyn gan fod ein grŵp ni a'r Ceidwadwyr eisoes wedi penderfynu cefnogi hyn. Roeddwn yn siomedig hefyd bod Plaid yn cymryd safbwynt tebyg, yn gyfforddus yn y wybodaeth na fydd Cymru yn colli’r pwerau hyn, ond yn caniatáu iddynt gymryd y tir uchel moesol eu hunain wrth ei wrthwynebu.
Nid oes unrhyw un ohonom ar yr ochr hon yn hapus â'r Bil hwn a, phe byddai popeth arall yn gyfartal, byddem, rwy'n siŵr, yn ei wrthod. Ond nid yw popeth arall yn gyfartal. Rydym yn wynebu Brexit caled. Mae'r model cadw pwerau, er ei fod yn ddryslyd—nid hwn yw'r model cadw pwerau yr oeddwn yn meddwl ein bod yn dadlau drosto, ac yr oedd y gymdeithas sifil yng Nghymru yr oeddwn yn rhan ohoni yn dadlau drosto. Mae'r model cadw pwerau o leiaf yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad inni rhag yr uffern sy'n mynd i gael ei rhyddhau arnom.
Hefyd, rwy’n meddwl bod y dadleuon a wnaeth y Prif Weinidog yn gynharach am ymgorffori confensiwn Sewel mewn cyfraith a hefyd am ddarparu’r fframwaith cyllidol—. Rwy’n derbyn pwynt Leanne Wood na ddylem fod wedi cael ein dal yn wystlon ar hyn. Ni ddylai'r pethau hyn fod wedi cael eu clymu at ei gilydd, ond dyna a ddigwyddodd. Ac rwy’n meddwl bod y cytundeb y mae’r Gweinidog Cyllid wedi ei gyflawni yn un sylweddol, un y byddai Gerry Holtham wedi bod yn fodlon iawn ag ef pan luniodd ei adroddiad. Mae'r buddugoliaethau hynny yn rhai sylweddol ac rwy’n meddwl yn rhai y byddem yn ddi-hid i gerdded i ffwrdd oddi wrthynt. Mewn cyfnod ansicr, rydym yn darparu rhywfaint o sefydlogrwydd. Rwy’n meddwl mai dyna beth mae’r Bil hwn yn ei gynnig, er ei fod yn amherffaith.
Ond rwyf wedi fy nigio gan agwedd Whitehall, sydd wedi treiddio i’r trafodaethau hyn ac i’r darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'r syniad na all Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am borthladd Aberdaugleddau oherwydd y gallem ymyrryd â chyflenwad nwy naturiol i Loegr yn lol trahaus, sarhaus. Rwy'n siomedig y byddai Alun Cairns, cyn Aelod o'r Cynulliad hwn, yn rhoi ei enw ar setliad o'r fath. Ceir haerllugrwydd o fewn Whitehall y mae angen inni ei wynebu. Nid yw’r Bil hwn yn gwneud hynny. Nid dyma’r Bil yr hoffwn i ei weld. Nid yw'n sefyllfa a fydd yn gydnerth. Nid yw'n Fil sy'n parchu refferendwm 2011. Ond byddai ei drechu yn fuddugoliaeth byrrhig ac un y byddem yn edifarhau amdani wrth i ganlyniadau Brexit ddod yn glir.