Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 17 Ionawr 2017.
Ac rwyf yn barod i gyfaddef fy mod wedi atal cyfiawnder troseddol a phlismona rhag dod i'r lle hwn. Gwneuthum yn siŵr nad oedd hynny'n wir yn yr achos penodol hwn, ond lle’r oedd pwerau yn gwneud synnwyr i gael eu trosglwyddo, gwneuthum ddadlau i’r pwerau hynny gael eu trosglwyddo. Rwy'n arbennig o falch o ddweud y bydd treth incwm yn dod i'r sefydliad hwn i wneud yn siŵr bod gennym fwy o atebolrwydd yn y ffordd y mae'r arian wedi cael ei wario yn y sefydliad hwn a chan y Llywodraeth. Ac rwy’n diolch i'r Aelod dros y Rhondda am dynnu sylw at bwysigrwydd y rhan y mae'r Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi ei chwarae, gan weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan, i wneud yn siŵr ein bod wedi cyflwyno’r ail Fil hwn sydd yn gweld llawer iawn o bŵer a chyfrifoldebau’n cael eu trosglwyddo i'r sefydliad hwn. Ni fyddwn byth yn gallu bodloni’ch dyhead chi am na fyddem yn dymuno bodloni’ch dyhead chi o annibyniaeth. Byddaf yn dweud y gair 'annibyniaeth', ond yr hyn y byddwn yn sicrhau ein bod yn ei ddarparu yn y dyfodol yw bod y sefydliad hwn a phenderfyniadau’r sefydliad hwn yn cael eu parchu a'u gwella lle mae angen eu gwella, a bod ewyllys pobl Cymru yn cael ei chynnal gan y gwleidyddion sy'n eistedd o fewn y sefydliad hwn.
Mae Alun Cairns yn haeddu llawer iawn o gredyd am y gwaith y mae ef, Guto Bebb a'r Arglwydd Bourne wedi ei gyflawni dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, pan fuon nhw yn Nhŷ Gwydyr i sicrhau bod y Bil hwn wedi symud yn sylweddol ymlaen o ble’r oedd yn ôl yn 2014, os cofiaf yn iawn, pan gafodd ei gyflwyno yn y lle cyntaf. Rwy’n fwy na hapus i roi credyd i'r Prif Weinidog hefyd yn y ffordd y mae wedi cymryd rhan yn y broses, ac yn wir y Llywydd a'i rhagflaenydd, Rosemary Butler, am y modd y cynhaliodd y trafodaethau ynghylch y ffordd y mae’r Bil hwn wedi dod at ei gilydd.
A yw unrhyw Fil yn berffaith? Nac ydyw. Ond mae’r Bil hwn yn gyfle enfawr i gymryd cyfrifoldeb—[Torri ar draws]—byddaf yn cymryd ymyriad mewn munud—dros ynni, dros drafnidiaeth, dros drefniadau etholiadol, dros dreth incwm: mae'r rhestr yn ddiddiwedd.