Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 17 Ionawr 2017.
Diolch i chi am ildio, Rhun. Rwy’n deall yn iawn eich bod chi’n anghytuno ag elfennau o’r Bil hwn. Fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud, nid yw'n berffaith mewn unrhyw fodd. Fodd bynnag, mae gwrthod y fframwaith cyllidol a drafodwyd gennym yn gynharach yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet fel elfen gadarnhaol yn unig—dewch, rydym wedi bod yn galw am ddiwygio Barnett ers i mi fod yma, ers i chi fod yma. Dyma newid cadarnhaol, newid cadarnhaol iawn yn dod i'r sefyllfa ariannol. Bydd hynny'n methu os nad yw hwn yn mynd drwyddo.